google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Skye Neville: Yr ymgyrchydd ifanc o Wynedd sy’n brwydro’r plastig

“Doeddet ti ddim yn arfer gweld llawer o bobl ifanc yn y cyfryngau, ond dwi ‘di gweld mwy o bobl yn gwneud stwff rŵan, ac mae ‘na don o bobl ifanc a lleisiau ifanc yn dweud ‘mae hyn yn anghywir, ‘dan ni angen newid’.

“Ac er fod rhai pobl yn dweud ‘mae’r plant am ei ddatrys o i gyd’ – na, dydyn ni ddim, achos mae hynny’n bwysau aruthrol i’w roi ar blant. Ond gallwn ni helpu i achosi newid.

“Y busnesau, yr oedolion a’r cenedlaethau hŷn sydd angen helpu. Does gennyn ni ddim y pŵer i newid deunydd pecynnau cynnyrch cwmnïoedd mawr – yn y pendraw, nhw sydd yn gwneud y penderfyniadau.

“Rŵan mae’r ymgyrch yn nwylo’r diwydiant. Mae cwmnïoedd yn dweud ein bod ni bendant wedi ei gwneud hi’n heriol iddyn nhw, ac mae’n rhaid iddyn nhw weithio’n gyflymach. Ond mae newid yn gallu cymryd amser hir.

“Welwn ni lle eith y ffilm, achos fydd hynny’n gyffrous iawn, a gobeithio gweld pa newid fydd yn dod o hynny.

“Dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol.”


BBC News

Advertisements

See also  RSPCA: Dead dogs found dumped in rubbish bags in Merthyr Tydfil

Check Also

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

‘Hwb sylweddol’ i’r cynlluniau i ymestyn rheilffordd Llyn Tegid i’r Bala

Dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd bod …

‘Amser wedi dod i ystyried cau Swyddfa Cymru yn San Steffan’ – Drakeford

Wrth gael ei holi a fyddai’n hapus i gael gwared â Swyddfa Cymru, dywedodd Mr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime