google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Sioc’ Cymry yn Awstralia wedi ymosodiadau Sydney

Mae dau o Gymru sy’n byw yn Awstralia wedi disgrifio’r sioc yn y wlad wedi i chwech o bobl gael eu trywanu i farwolaeth yn un o ardaloedd prysuraf Sydney.

Mae o leiaf wyth yn rhagor yn yr ysbyty, gan gynnwys babi naw mis oed, ar ôl ymosodiad gan ddyn â chylell fore Sadwrn – 15:10 amser Sydney – yng nghanolfan siopa Westfield yn ardal Cyffordd Bondi y ddinas.

Yn ôl adroddiadau lleol mae mam y babi ymhlith y rhai a fu farw.

Yn ôl yr heddlu, fe gafodd dyn 40 oed – oedd yn cario cyllell fawr – ei saethu’n farw gan blimones a aeth i’w herio ar ei phen ei hun yn ystod yr ymosodiad.

Dywed Heddlu New South Wales nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad, ac os ydyn nhw’n gywir ynghylch pwy roedd y dyn, does dim lle i amau fod hwn yn achos o derfysgaeth.

Newydd symud i Sydney o Gaerdydd mae Anni Davies ac fe roedd hi yn y ganolfan siopa, sydd ychydig filltiroedd o draeth enwog Bondi, ddydd Gwener.

Dywedodd ei bod “wedi teimlo’n hollol saff” yna, a’i bod wedi nabod rhai o’r siopa wrth edrych ar y lluniau teledu o’r safle wedi’r gyflafan.

Roedd y newyddiadurwr Andy Bell yn ymwelydd cyson â’r ganolfan pan roedd yn arfer byw yn y ddinas.

Dywedodd mai dyma’r gyflafan waethaf yn y wlad ers y 1990au.


Source link

Advertisements

See also  Elinor Barker: From the pain of endometriosis to making sporting history

Check Also

Cyfyngu ar nifer ymwelwyr ysbyty wedi achosion o’r clefyd crafu

Mae ysbyty yn Sir Gâr wedi cyflwyno cyfyngiadau mewn ymateb i achosion diweddar o’r clefyd …

Flying Start brand to be ditched for two-year-old childcare in Wales

The Welsh government has asked councils to rebrand the childcare they provide for two-year-olds, dropping …

Côr cymunedol yn dathlu pen-blwydd Pont Pen Llyn ym Mrynrefail yn 200

Dros y penwythnos fe gasglodd trigolion lleol ar bont Pen Llyn ym Mrynrefail ger Llanberis …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime