google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Serenar Douch: ‘Bod ar y llwyfan yn freuddwyd i fi’

Wedi cyfnod o berfformio ar lwyfan y West End, mae Serenar Douch o Gaerfyrddin yn gwireddu breuddwyd drwy ddychwelyd i Gaerdydd i berfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwn.

O Langynnwr i sioe y Moulin Rouge ac yn awr ar daith ledled y DU gyda The Karate Kid – The Musical, bu Serenar yn siarad gyda Cymru Fyw am ei chefndir yng Nghaerfyrddin a sut fod ei mam-gu hi’n allweddol i’w llwyddiant.

Yn syth ar ôl graddio, ymunodd Serenar â chast Moulin Rouge! The Musical yn theatr y Piccadilly yn Llundain.

Ond mae ei rôl nesaf fel swing yn rhan o gast The Karate Kid – The Musical, sy’n seiliedig ar y ffilm o’r 80au.

Mae swing yn gyfrifol am ddysgu a pherfformio nifer o rolau gwahanol yn yr ensemble, gan gamu i mewn i unrhyw un ohonynt ar fyr-rybudd.

Meddai: “Dwi mor gyffrous i fynd i Ganolfan y Mileniwm – rhywbeth dw i wedi breuddwydio amdano ers amser maith.

“Dw i wedi gweld cymaint o sioeau yno gyda fy mam-gu; dwi’n methu aros i fod ar y llwyfan tra bydd hi yn y gynulleidfa. Bydd yn teimlo’n arbennig iawn ac yn uchafbwynt i ‘ngyrfa i.

“Dwi’n onstage swing sy’n covero y merched a’r bechgyn i gyd yn yr ensemble. Felly dwi’n neud pob track yn yr ensemble a phan mae un yn sâl mae’r swing yn covero nhw.”


BBC News

Advertisements

See also  Welsh Mountain Zoo: Rare snow leopard born in conservation triumph

Check Also

Labour calls for M4 relief road, seven years after axing the plan

Asked what he would say to accusations of a U-turn, Skates added: “Well, it’s a …

VisionQuest fans to meet Marvel villain from Wales, with Cardiff accent

Morais recalled being like “a rabbit in the headlights” surrounded by all the stars of …

Tro pedol ar gynllun i ddileu statws eglwysig Ysgol Cilgerran

Mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Iau, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime