google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Seiclwr yn marw yn ystod reid feics elusennol

Mae dyn 51 oed wedi marw wrth gymryd rhan mewn reid feics elusennol yn ne Cymru.

Fe gadarnhaodd trefnwyr taith flynyddol CARTEN100 “gyda thristwch dwfn” bod Michael Gronow wedi marw wrth adael Tre Ioan, yn Sir Gaerfyrddin.

Yr amheuaeth yw ei fod wedi cael ataliad ar y galon.

Roedd y gwasanaethau brys, medd y trefnwyr, “wedi cyrraedd bron yn syth gan ymateb yn hynod gyflym a phroffesiynol”.

Ychwanegodd eu datganiad: “Mae hyn yn drasiedi ofnadwy i’w wraig, teulu a ffrindiau.

“Hoffai bawb ynghlwm â threfnu’r CARTEN100 gynnig eu cydymdeimladau diffuant.”

Mae 2,100 o feicwyr yn cymryd rhan yn y reid feics, sy’n 20 oed eleni, gan seiclo 100 milltir rhwng Caerdydd a Dinbych-y-Pysgod mewn diwrnod.


Source link

Views: 1

See also  The amateur Welsh footballers on computer game Football Manager

Check Also

Glan Clwyd hospital nurse ‘panicked’ after finding man unresponsive, inquest hears

A nurse who failed to raise the alarm when he found a patient cold and …

Teyrngedau i Emyr Owen – ‘gweithiwr caled cefn gwlad a gŵr busnes naturiol’

Dywedodd Geraint ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn rhannu’r newyddion am ei dad “gyda …

Glamorgan: Keeper Chris Cooke to retire at end of season

Born in Johannesburg, Cooke played briefly for Western Province in South Africa before coming to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ostarine mk 2866 sarm powder – 1g.