google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Saethu Trump: ‘Mae yna gwestiynau mawr i’w gofyn’

Mae Donald Trump wedi galw ar Americanwyr i uno yn dilyn ymgais i’w saethu’n farw wrth iddo annerch torf mewn rali gwleidyddol yn Pennsylvania.

Mân anafiadau i’w glust yn unig y cafodd y cyn Arlywydd, sy’n gobeithio dychwelyd i’r Tŷ Gwyn wedi’r etholiad ym mis Tachwedd.

Ond fe gafodd dyn oedd yn y dorf ei ladd ac mae dau berson arall wedi cael eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Mae gwraig y dyn a fu farw wedi disgrifio sut y taflodd ei hun ar ben ei anwyliaid er mwyn eu gwarchod rhag bwledi.

Dyn lleol 20 oed, Thomas Mathew Crooks, sydd dan amheuaeth o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad, yn ôl yr FBI.

Fe gafodd ei saethu’n farw gan swyddogion arfog ond mae nifer o bobl oedd yn y dorf yn dweud eu bod wedi ceisio tynnu sylw’r awdurdodau ar ôl gweld dyn gyda gwn ar do adeilad ar gyrion y rali.

Mae cwestiynau wedi codi ynghylch trefniadau Gwasanaethau Cudd yr UDA, sy’n gyfrifol am warchod arlywyddion a chyn arlywyddion.

Yn ôl Dai Davies – arbenigwr diogelwch o Gymru sydd wedi cydweithio gyda swyddogion diogelwch America yn y gorffennol – mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le.


Source link

See also  Green light for electric arc furnace and Welsh NHS' £262m bill

Check Also

County Championship: Hampshire thwarted by rain in draw against Glamorgan

Resuming on the fourth morning at 124-2, Albert and Jake Lehmann played conservatively for 40 …

Mountain Bike World Championships: Tom Pidcock dedicates second title to Fin Tarling

Great Britain’s Tom Pidcock paid an emotional tribute to Fin Tarling after winning his second …

Is Swansea City’s attacking transfer business already paying off?

Improvements in the wide areas topped Swansea City supporters’ target list as the club entered …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime