google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

S4C yn dod i setliad gyda’r cyn-brif weithredwr Siân Doyle

Advertisements

Daeth honiadau o fwlio yn S4C i’r amlwg yn Ebrill 2023, pan gafodd cwyn gan undeb Bectu ei ryddhau i’r cyfryngau.

Fe wnaeth y cadeirydd ar y pryd, Mr Williams, lansio ymchwiliad annibynnol a gafodd ei gynnal gan gwmni Capital Law.

Cafodd Ms Doyle ei diswyddo o’i rôl fel prif weithredwr, oedd yn talu £162,000 y flwyddyn, yn fuan cyn i adroddiad Capital Law gael ei gyhoeddi.

Roedd honiadau o iaith sarhaus gan Ms Doyle yn cael eu dyfynnu yn yr adroddiad, gan gynnwys sylwadau dilornus o gyd-weithwyr a chyflwynwyr y sianel.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Ms Doyle nad oedd hi’n “adnabod na derbyn yr honiadau”.

Dywedodd Ms Doyle: “Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu a’i ddarparu gan y cadeirydd felly dyw hi’n ddim syndod, o 92 o bobl oedd yn rhan o’r ymchwiliad, i’r adroddiad ganolbwyntio ar farn lleiafrif bach.”

Ychwanegodd nad oedd wedi cael rhybudd cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, na ‘chwaith wedi cael cyfle i ymateb gan S4C, a’i bod wedi darllen yr adroddiad gyntaf yn y cyfryngau.


BBC News

Views: 0

See also  Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod priodas un rhyw

Check Also

'Cwrdd am y tro cyntaf ar ôl canfod ein bod yn rhannu'r un tad'

Tair chwaer yn cwrdd am y tro cyntaf wedi iddyn nhw ganfod eu bod, yn …

Uefa Women’s Champions League: Wrexham’s Lili Jones relishing ‘massive’ European adventure

Midfielder Lili Jones says appearing in Europe for the first time will be “massive” for …

Tragedy meets 'social realism' in Welsh-language film hailed a 'sensation'

Effi o Blaenau follows a young woman grappling with unemployment in a north Wales town. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport hamilton tn. power only mississippi. farm equipment transport tennessee.