google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ruth Lloyd: O fyd actio i ddysgu Cymraeg i’r fyddin

Ond yn ogystal â hyrwyddo’r Gymraeg er lles yr iaith, mae ‘na fanteision ymarferol o ddysgu Cymraeg i filwyr, meddai Ruth.

Stori sy’n cael ei adrodd yn aml yn y barics yn Aberhonddu ydy hanes yr Is-gyrnol Nick Locke yn Kosovo yn y 1990au.

“Roedd e’n filwr ifanc yn y rhyfel fyna, a ro’n nhw wedi mynd i ryddhau pentre’,” meddai Ruth.

“Roedd y trigolion yn y pentre’ dan berygl ofnadw, a chethon nhw eu hamgylchynu.

“Doedd e ddim yn edrych fel y byddai nhw’r milwyr neu drigolion y pentref yn mynd i ddod mas yn fyw tan i rywun benderfynu mai dim ond pobl oedd yn siarad Cymraeg oedd yn cael defnyddio’r radio.

“Ro’n nhw’n gatrawd oedd yn siarad Cymraeg a wnaethon nhw wneud hynny, a llwyddon nhw gael bob milwr a bob un o’r trigolion mas yn fyw.

“Ond bydden nhw ddim wedi heb law am hynny achos roedd pobl oedd yn amgylchynu nhw wedi intercepto’r radio a’n deall Saesneg.”


BBC News

Advertisements

See also  Barnett Formula: Plaid Cymru attack Morgan over how Wales is funded

Check Also

‘Roedd dal y clefyd crafu yn yr ysbyty yn gysgod dros farwolaeth fy ngŵr’

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod rhai triniaethau wedi gorfod cael eu canslo oherwydd …

Elfyn Evans yn gobeithio cyrraedd ‘y pinacl’ drwy ddod yn bencampwr byd

Dywedodd Edwyn Evans, perthynas a chyd-yrrwr Gwyndaf Evans, tad Elfyn, fod “pinacl” ei yrfa o …

Row over sex shop plan and ex-boss fleeces school of £5m

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime