google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Robert Vaughn: Un o’r Cymry mwyaf dylanwadol aeth i America

3ed84be0 5025 11f0 a466 d54f65b60deb.jpg

Advertisements

Fe briododd Robert â Elizabeth Donahue o Ganada yn 1886.

Rhoddodd hi enedigaeth i’w merch Arvonia yn 1888, ond llai na phythefnos yn ddiweddarach bu farw Elizabeth o broblemau’n sgil yr enedigaeth.

Penderfynodd Vaughn werthu ei fferm am swm sylweddol a symud i ddinas Great Falls gerllaw. Gwerthwyd ei fferm i Gapten Thomas Couch a oedd berchen mwynfeydd copr ac arian ar draws America.

Wedi iddo symud daeth Vaughn yn un o’r dynion busnes mwyaf dylanwadol yn Great Falls, yn prynu a gwerthu eiddo, a chafoedd ei alw’n ‘Yncl Bob’ a’r ‘Cowboi Celtaidd’ gan y dinasyddion.

Penderfynodd Couch i ddechrau adeiladu tref ar y tir ble’r oedd fferm a’r tir oedd arfer bod yn berchen i Robert Vaughn. Fel teyrnged i Vaughn, fe benderfynnodd Couch ei enwi ar ôl y Cymro.

Mae’r dref yn parhau i fod yno heddiw ac yn gartref i bron i 1,000 o bobl.

Yn 1900 fe ysgrifennodd Robert Vaughn lyfr am fywyd fel ffermwr yn Montana.

Then and Now, or, Thirty-Six Years in the Rockies yw enw’r gyfrol, ac mae’n gasgliad o lythyrau gan Vaughn i’w ferch Arvonia a’i hanes yn sefydlu’r fferm ar dir Montana.

Mae haneswyr yn datgan fod y llyfr yn dystiolaeth bwysig o ddatblygiad cynnar y dalaith.

Bu farw Robert Vaughn yn 81 oed wedi salwch byr yn 1918.

Hyd heddiw mae’n cael ei gofio yn y dref sydd wedi cael ei enwi ar ei ôl fel y bachgen a ddaeth o Ddinas Mawddwy.

Efallai bod llys-enw Montana fel y Treasure State yn gweddu’n berffaith i’r Cymro a fentrodd heb geiniog dros y dŵr a gwneud ei ffortiwn gan ddylanwadu ar ddyfodol ffermio ym Montana.


BBC News

See also  Anglesey: Roman and medieval past unearthed in churchyard dig

Check Also

Jak Jones shocks Mark Selby to win British Open title

Jak Jones claimed the second ranking title of his career by beating four-time world champion …

Cancer survivors living with chemo hair loss celebrate resilience

BOLD began in 2022, when Lisa Allen from The Pink Ribbon Foundation met photographer Caroline …

More funding needed to boost construction jobs for young people – housing boss

A long-term plan and additional funding is needed to create more placements for young people …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime