google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhys ab Owen yn cael dychwelyd i’r Senedd ar ôl gwaharddiad

Fe gafodd yr ymchwiliad ei ystyried gan bwyllgor safonau’r Senedd, wnaeth argymell atal yr aelod am 42 diwrnod.

Pe bai Rhys ab Owen wedi bod yn Aelod Seneddol byddai wedi wynebu deiseb adalw, a allai arwain at isetholiad.

Nid oes proses o’r fath yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn siarad ar bodlediad Walescast y BBC, dywedodd y Llywydd Elin Jones bod yna gonsensws ar draws y pleidiau gwleidyddol bod angen system adalw ar gyfer y dyfodol.

“Mae gwleidyddion, aelodau etholedig, yn aml yn gadael y bobl a bleidleisiodd drostynt i lawr, ac mae angen i’r bobl a bleidleisiodd drostyn nhw allu mynegi barn na ddylent barhau yn eu swydd,” meddai.

Ychwanegodd y prif weinidog Vaughan Gething ddydd Mawrth ei fod yntau eisiau gweld y Senedd yn pasio deddfwriaeth o’r fath yn y dyfodol agos.

Ond mae system etholiadol y Senedd yn cymhlethu pethau.

O dan y system newydd, sydd i’w chyflwyno yn 2026, ni fydd yna unrhyw isetholiadau gan fod pob gwleidydd yn cael eu hethol o restrau’r pleidiau.


Source link

Views: 0

See also  Wales budget: '£1bn at risk if opponents don't back it'

Check Also

‘The boys deserve massive credit’ – Mullins hails Newport win

Newport County boss Hayden Mullins praised his players after a dominant opening day victory at …

The Hundred final: Trent Rockets’ Aneurin Donald flies Welsh flag at Lord’s

Donald is hoping to be part of a successful Trent Rockets side in front of …

Emergency alert sent in Welsh then English causes debate

Politicians have questioned why an emergency alert was sent to phones in Welsh before it …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfa pod kit. Hostrite hosting news updates.