google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd i drigolion Rhymni wedi tân mawr dros nos

Advertisements

Mae swyddogion Gwasanaeth Tân De Cymru yn parhau i geisio diffodd tân mawr yn Rhymni yn Sir Caerffili.

Mae yna rybudd ei bod hi’n bosib na fydd dŵr yfed pobl sy’n byw ger llaw Parc Eco Capital Valley yn glir fore Sadwrn wedi’r tân yn y parc dros nos.

Dechreuodd y tân tua 23:00 nos Wener.

Mae pobl leol wedi cael eu cynghori i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau ac i osgoi mynd i mewn i Afon Rhymni er lles eu diogelwch.

Mae rhannau o ffordd yr A469 yn Rhymni ar gau i’r ddau gyfeiriad a gyrwyr yn cael eu dargyfeirio.

Mae’r rhai sydd wedi gweld y tân wedi’i ddisgrifio fel un “enfawr”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn cynorthwyo diffoddwyr tân ym Mharc Eco Capital Valley, Rhymni.

“Dilynwch eu cyngor gan osgoi mynd i mewn i Afon Rhymni am resymau diogelwch – ni ddylai anifeiliaid anwes fynd mewn i’r afon chwaith gan bod yna o bosib lygredd yn y dŵr.”


BBC News

Views: 2

See also  Footballer Jess Fishlock appears as 2025 Nos Galan mystery runner

Check Also

Emergency alert sent in Welsh then English causes debate

Politicians have questioned why an emergency alert was sent to phones in Welsh before it …

Farmer seeking help to feed flock faces backlash over croissant treat

A wool farmer who set up a fundraiser to help feed her sheep says she …

Welsh Labour’s Ken Skates speaks about anxiety and depression

Skates grew up near Mold, Flintshire, and was the first member of his family to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar vape for sale. life domain name hostrite hosting news updates.