google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd am stormydd mellt a tharanau yn y gogledd nos Fercher

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws gogledd Cymru nos Fercher.

Gallai’r cawodydd trwm a’r stormydd o fellt a tharanau arwain at lifogydd a chael effaith ar drafnidiaeth, dolen allanol, medden nhw.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 19:00 nos Fercher a 10:00 fore Iau.

Y siroedd yng Nghymru sy’n debygol o gael eu heffeithio ydy Conwy, Ddinbych, Y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam – holl siroedd y gogledd.

Mae disgwyl i’r cawodydd ddod â 20mm o law o fewn awr mewn rhai ardaloedd, a chymaint â 50mm yn disgyn dros gyfnod o chwe awr – allai arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd.

Yn ogystal â’r glaw, mae disgwyl taranau hefyd, gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai trafnidiaeth, adeiladau a chyflenwadau pŵer gael eu heffeithio.

Ychwanegon nhw y bydd y cawodydd yn dechrau pylu o’r gogledd-orllewin fore Iau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Pleidleisio i ethol Aelod o'r Senedd Caerffili

Check Also

Wales' papers: Lies of 'Tinder trap' fraudster and residents 'targeted' by teens

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Pollution behind coracle fishing in Carmarthenshire river’s decline

Keith Elias’s family have been fishing on the river for 300 years – he said …

County Championship: Glamorgan dominate at rain-hit Leicester

Rothesay County Championship, Division One, Uptonsteel Grace Road, Leicester (day one) Leicestershire: 113-7 (Van der …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime