google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhoddion Vaughan Gething: AS Llafur eisiau ymchwiliad annibynnol

Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad annibynnol, ac yn ôl yr aelod Ceidwadol o’r Senedd, Samuel Kurtz, mae sawl cwestiwn i’w ateb.

“Hoffwn weld pam fod Banc Datblygu Cymru wedi rhoi’r arian yma i’r busnes, a pam eu bod nhw’n meddwl fod hynny’n syniad da o ystyried be oedd wedi digwydd o’r blaen o ran torri’r gyfraith,” meddai.

“Oedd y prif weinidog yn gwybod bod y cwmni yma wedi torri’r gyfraith pan wnaeth o dderbyn yr arian?

“Ac os na chafodd yr arian yma i gyd ei wario gan Vaughan Gething yn ei ymgyrch ef, bydd yr arian yn mynd i’r blaid lafur – a fydda nhw’n gyfforddus gyda derbyn yr arian yma?

“Mae sawl cwestiwn ar bob un lefel.”

Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai ymchwiliad annibynnol yn “ddiwedd ar y mater” gan nodi fod “neb erioed wedi derbyn swm o arian fel £200,000 mewn etholiad mewnol yng Nghymru”.

“Mae angen edrych ar yr effaith gafodd hyn ar y bleidlais arweinyddiaeth ac ar y prif weinidog newydd.

“Mae’n arweinydd nid yn unig ar Lafur Cymru, ond ar Gymru hefyd.”


Source link

Views: 1

See also  Leon Brown: Wales prop back as Dragons host Lions

Check Also

County Championship: Glamorgan and Leicestershire play out draw

Leicestershire started the day with a lead of 60 but started slowly as Glamorgan were …

Land speed record car Babs returns to beach for centenary

The car took to the sands of Pendine, 100 years after a Welsh racing driver …

Helpu rhedwr marathon: ‘Profiad fydd yn aros efo fi am hir iawn’

Mae Gwion sy’n byw yn Nhrawsfynydd, yn dad i ferch fach, Manw, sy’n ddwy a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime