google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Rhewgell wedi’i thaflu o gefn fan at gar heddlu

Mae fideo wedi ei ryddhau o rewgell yn cael ei thaflu o gefn fan at gar yr heddlu yn Llantrisant.

Dechreuodd swyddog o heddlu’r de ddilyn y fan wen Peugeot ar ôl derbyn adroddiadau fod ganddi rifau cerbyd ffug.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd i botel, sbaner, a rhewgell gael eu taflu o’r fan wrth i’r heddlu geisio stopio’r cerbyd oedd yn teithio i gyfeiriad Tonyrefail.

Fe wnaeth y fan stopio’n sydyn cyn gyrru’n ôl at gar yr heddlu sawl tro.

Cafodd gyrrwr y fan, Daniel Symmons o Stryd Kenry yn Nhonypandy, ei ddedfrydu i 10 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd am yrru’n beryglus.

Roedd Mr Symmons wedi pledio’n euog i yrru’n beryglus, gyrru heb yswiriant, achosi difrod troseddol, ac ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys.

Bydd yn rhaid iddo dreulio hanner ei ddedfryd dan glo, cyn treulio gweddil y ddedfryd yn y gymuned. Mae wedi ei wahardd rhag gyrru am 23 mis.


Source link

See also  Ex-Warwickshire Police officer sentenced for harassment

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime