google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Rhan fwyaf o bobl ar fudd-dal salwch yn gallu gweithio’

Mae galwadau ers tro o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys Llywodraeth Lafur Cymru, i Gymru dderbyn arian ychwanegol o ganlyniad i wariant ar brosiect rheilffordd High Speed ​​2 (HS2).

Galwodd Plaid Cymru, yn ei maniffesto, yn benodol am £4bn mewn cyllid – yn seiliedig ar amcangyfrifon o gost adeiladu’r prosiect.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cysgodol Llafur Cymru, fod “llawer o ffigyrau yn cael eu taflu o gwmpas” a dywedodd mai’r union swm oedd “£350m”.

Gan gyfeirio at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi cwtogi ar HS2, ychwanegodd: “Dydi o ddim y biliynau o bunnau wnaethoch chi sôn amdanyn nhw’n gynharach, ond beth bynnag yw’r ffigwr, y ffaith yw bod Rishi Sunak wedi chwalu’r prosiect hwnnw.

“Dyw’r un blaid yn yr etholiad hwn, fel [Plaid Cymru] sy’n seilio eu maniffesto ac ymrwymiadau gwario ar arian sydd ddim yno, yn mynd i allu cyflawni unrhyw addewidion.”

Wedi’i gwthio gan Liz Saville Roberts ar “pam na allwch chi gadw at aelodau Senedd Llafur Cymru sydd hefyd yn galw am ariannu HS2 i Gymru yn iawn”, ychwanegodd Ms Stevens: “Rwyf newydd ateb eich cwestiwn – nid yw’r arian yno”.




Source link

Advertisements
Views: 1

See also  Women's Six Nations: Wales face uphill task after opening round defeat

Check Also

Dyn wedi’i gyhuddo o drywanu bachgen 17 oed yn Y Barri

Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o anafu bwriadol yn dilyn …

Women’s World Cup qualifying: Wales aim to right their wrongs against the Czechs

Wilkinson reshuffled her starting side in Montenegro, with five changes to the team which began …

Y gefnogaeth sy’n dilyn triniaeth ganser fel y ‘bwgan mawr does neb yn meddwl amdano’

Mae Macmillan yn dweud bod 59% o bobl â chanser yng Nghymru yn cael trafferth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... 429 too many requests.