google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

Rhai’n anhapus â chabinet newydd Cyngor Gwynedd

Mae arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys, wedi amddiffyn ei dewis o gabinet.

Does ‘na ddim lle i un o’r pedwar aelod a wnaeth ymddiswyddo o’r cabinet ganol fis Hydref sef Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker.

Fe wnaeth y pedwar ymddiswyddo oherwydd “gwahaniaethau sylfaenol” rhyngddyn nhw a’r arweinyddiaeth ar y pryd.

Mae’r BBC yn deall bod y pedwar wedi ymgeisio am le yn y cabinet newydd.

Mae sawl ffynhonnell wedi rhannu eu hanniddigrwydd gyda’r BBC – cynghorwyr Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol.

Dywedodd un cynghorydd Plaid Cymru, sy’n dymuno aros yn ddienw: “Dwi’n meddwl ei bod yn hollol warthus nad ydy’r rhai wnaeth ymddiswyddo wedi cael lle ar y cabinet newydd.

“Ar y llaw arall,” meddai, “mae’r rhai na wnaeth ymddiswyddo i gyd wedi cael cadw eu lle.

“Mae aelodau abl, doeth a deallus yn outcasts o’r cabinet,” meddai’r ffynhonnell, “fel tasant wedi eu cosbi am eu safiad dewr.”


Source link

See also  Rhybudd am donnau anarferol o fawr dros Ŵyl y Banc

Check Also

Ethan Bamber boosts Warwickshire Bears as Glamorgan crumble

Glamorgan made two changes bringing in Jack Hope-Bell for his first class debut in place …

Don’t Look Back In Anger: Oasis’ Cardiff comeback gig emotional, directors say

Oasis’ reunion gig at Cardiff’s Principality Stadium was a “hugely emotional” experience that took Noel …

Cyfres newydd eisiau chwalu'r 'stigma a'r myth' am ddigartrefedd

Mae angen cael gwared â’r stigma a’r camwybodaeth am ddigartrefedd os yw pobl am fod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime