google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhaid parhau i ddarlledu gemau’r Chwe Gwlad yn Gymraeg – AS

Advertisements

Fe wnaeth S4C sicrhau cytundeb pedair blynedd i ddarlledu holl gemau’r Chwe Gwlad yn fyw yn 2021.

Ond gyda’r cyfnod hwnnw yn dod i ben, mae AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi wedi dweud pa mor bwysig yw sicrhau bod y darlledu yn parhau yn Gymraeg.

Mae Gweinidog Chwaraeon a’r Cyfryngau llywodraeth y DU, Steph Peacock, wedi cytuno i gwrdd â Ms Antoniazzi ac eraill i drafod y mater mewn dadl seneddol.

Mae Tonia Antoniazzi sydd wedi ennill naw cap i Gymru ac wedi chwarae i dîm cyntaf y menywod yn ystod cystadleuaeth Rygbi’r Byd yn 1998.

Dywedodd: “Mae’n hanfodol fod darlledu y Chwe Gwlad ar gael yn Gymraeg ar gyfer y rheiny sy’n ei wylio yng Nghymru.

“Mae’n wahanol yng Nghymru, mae rygbi yn wahanol, mae’r nifer sy’n gwylio yn uwch, ac mae e’n rhan fawr o’n diwylliant.”

Dywedodd Steph Peacock ei bod yn hapus i gwrdd â BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C er mwyn sicrhau bod trafodaethau ynghylch y Gymraeg yn cael eu clywed.


BBC News

Views: 0

See also  Wales snow and ice weather warning issued by Met Office

Check Also

Cardiff teens arrested in Thailand prompting police probe

Two Welsh teenagers have been arrested in Thailand prompting a police investigation into the “circumstances” …

Dau fachgen yn ‘haeddu gwobr’ am helpu dyn sâl yn Tafwyl

“Fi moyn i’r ddau fachgen yma gael rhyw fath o wobr neu anrhydedd,” meddai Mr …

Uefa U19 European Championship: Chris Gunter goes from youngster to Wales mentor

Brett also recalls a tournament in which Wales beat Slovakia, Russia, Northern Ireland and Belgium …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The writing club. 429 too many requests.