google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwyllgor sychder i gwrdd wedi pryder am lefelau afonydd

617855c0 34d5 11f0 a7d6 116e90b77ae3.jpg

Mae lefel y glawiad hyd yma’r gwanwyn hwn yng Nghymru wedi bod yn llawer is na’r cyfartaledd.

Mae’r wlad wedi profi 49% o’r lefelau y byddai’n ei disgwyl yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill, yn ôl Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (CEH).

Er bod y rhagolygon yn addo tywydd gwlypach dros y penwythnos a’r wythnos nesaf, dywedodd Catherine Sefton, uwch hydrolegydd gyda CEH, bod angen cyfnod o law sefydlog.

“Oni bai ein bod ni’n gweld glawiad sylweddol nawr yn ystod diwedd y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, fe fydd ‘na bryderon am adnoddau dŵr a’r amgylchedd, ac effeithiau i amaethyddiaeth hefyd o ganlyniad i briddoedd sych,” meddai.

Roedd hi’n arbennig o sych yn y canolbarth a’r gogledd yn ystod mis Ebrill, gydag afonydd fel Conwy, Dyfrdwy a Gwy yn “nodedig o isel”, yn ôl adroddiadau CEH.

Roedd Afon Ysgir ym Mhowys yn “eithriadol o isel” – gan gofnodi dim ond 21% o’i llif arferol ym mis Ebrill.

Yr afon hon – yn ogystal â’r Dyfrdwy – a gofnododd eu lefelau isaf ar gyfartaledd yn ystod Mawrth ac Ebrill ers dechrau cadw data ar lif y dŵr.


BBC News

Advertisements

See also  Changes to new GSCEs in Wales likely after burnout concerns

Check Also

Croeso arwrol i Elfyn Evans yn Nolgellau ar ôl ennill pencampwriaeth ralïo’r byd

Cafodd Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy groeso arwrol ddydd Iau wrth iddo ddychwelyd i’w ardal …

Charlotte Church’s The Dreaming retreat to pause in December

Charlotte Church will “pause” her wellness retreat from December to “germinate new dreams for the …

Cardiff’s Krystian Bielik sees psychologist over alleged death threats after fan clash

A Hampshire Police investigation into the flashpoint concluded no further action was needed, with Bielik …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime