google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryderon tirlithiad i gau ffordd yr A469 am ddwy flynedd

Mae glaw trwm cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi cyflymu faint mae’r tir yn symud uwchben y ffordd rhwng pentrefi Tir-phil a Phontlotyn.

Mae gwaith monitro’r ffordd yn parhau ers 2014 ac fe gaewyd un lôn yn 2020 yn sgil effaith glaw trwm Storm Dennis ar y tir.

Yn ôl adroddiad diweddar gan y cyngor, mae yna risg o dirlithiad yn yr ardal os nad oes gwaith yn cychwyn yn fuan i wneud ochr y mynydd a’r ffordd yn fwy diogel.

Heb unrhyw waith cynnal a chadw, fe allai fod “tirlithiad trychinebus” a fyddai’n “achosi peryg i fywydau”.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerffili, Jamie Pritchard: “Mi fydd y gwaith yn effeithio ar fusnesau a phobl leol am gyfnod hir ond mae’n holl bwysig ein bod ni’n cwblhau’r gwaith pwysig yma yng ngogledd Cwm Rhymni er mwyn diogelu cymunedau.

“Dyma’r unig ffordd sy’n cysylltu cymunedau yn yr ardal felly does yna ddim opsiwn arall ond i gau’r ffordd i wneud y gwaith.”


BBC News

Advertisements

See also  Ben Davies: Foirward commits to Cardiff Devils for another season

Check Also

Prem Rugby closes the door for now on potential Anglo-Welsh league despite WRU interest

Wales have four professional sides, Ospreys, Cardiff, Scarlets and Dragons, that currently play in the …

Babydoll singer Jamie Miller says his ‘dreams have come true’

Jamie Miller says “nothing feels normal” anymore but he is trying to “live in the …

Artist Cymreig yn rhif un siartiau senglau y DU am y tro cyntaf ers 15 mlynedd

Yn wreiddiol o Bontprennau, yng Nghaerdydd, fe ymddangosodd Jamie Miller ar raglen The Voice yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime