google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder bod ‘pwysau mawr’ ar rai gwirfoddolwyr cylchoedd meithrin

Dywedodd Mudiad Meithrin eu bod yn “gwerthfawrogi’n fawr gyfraniad aruthrol ein gwirfoddolwyr ar bwyllgorau rheoli’r cylchoedd”, a’u bod yn “cydnabod mai nhw yw asgwrn cefn y cylchoedd meithrin”.

Ychwanegon nhw, mewn holiadur o 2024-25, fod 87% o ymatebwyr wedi nodi eu bod yn teimlo fod y “cyngor, cefnogaeth a’r wybodaeth sy’n cael ei gynnig gan y Mudiad” yn  “ardderchog” neu’n “dda iawn”, a’r 13% arall yn nodi ei fod yn “foddhaol”.

“Serch hynny, mae cynlluniau eisoes ar waith i hwyluso a lleihau’r pwysau cynyddol mae rhai pwyllgorau yn ei deimlo, ac mae hyn yn flaenoriaeth i’r Mudiad,” meddai’r llefarydd.

“I’r perwyl hyn, fe sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn 2025 i edrych ar fodelau amgen i’w hystyried  gyda’r bwriad o dynnu’r pwysau rheoli oddi ar wirfoddolwyr.”

Bydd y grŵp yn cwrdd am y tro olaf yn y dyddiau nesaf i drafod cyfres o argymhellion, gyda’r rheiny’n cael eu rhannu gyda staff ac aelodau maes o law.

Ychwanegodd Dr Catrin Edwards, prif weithredwr Mudiad Meithrin, fod “mynd i’r afael ar y pwysau cynyddol mae rhai gwirfoddolwyr a phwyllgorau yn profi yn parhau yn flaenoriaeth i mi wrth baratoi’r Mudiad a’n haelodau at ddarparu gofal plant sy’n ymateb i anghenion gofal plant rhieni a gofalwyr, nawr ac yn y dyfodol”.


BBC News

Advertisements

See also  Disgyblion yn gwybod mwy am y Natsïaid na hanes Cymru - darlithydd

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime