google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Prosiect yn gobeithio cynyddu niferoedd llygod y dŵr yn ne Cymru

Nawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a sefydliadau eraill yn gweithio ar brosiect i ddod â llygod y dŵr yn ôl i Afon Ddawan ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg.

Cyn eu rhyddhau, mae staff a gwirfoddolwyr yn neorfa Cynrig CNC ger Aberhonddu – lle mae’r llygod y dŵr yn cael eu bridio – yn monitro eu harferion bwyta ac yn tyfu’r bwyd y byddan nhw’n canfod yn y gwyllt.

Yn ôl Richard Davies – arweinydd y prosiect – y nod yw helpu’r llygod y dŵr hyn i ymdopi’n well gyda’r profiad o gael eu rhyddhau, sydd yn gallu “achosi tipyn o straen”.

“Os y’ch chi’n cyflwyno diet newydd hefyd, gall hynny achosi hyd yn oed mwy o straen,” meddai.

“Felly trwy eu paratoi gyda’r planhigion a’r diet cywir, rwy’n credu y byddan nhw’n fwy ffit ar gyfer y gwyllt.”

Dywedodd Mr Davies fod llygod y dŵr yn bwyta dros 200 o wahanol fathau o blanhigion – sydd, hyd yn hyn, wedi bod yn anodd rhoi iddyn nhw mewn caethiwed.

Felly mae’r prosiect wedi bod yn rhoi afalau a moron iddyn nhw yn lle.


BBC News

Advertisements

See also  Health Sec Review Into Mental Health and ADHD Diagnoses

Check Also

Welsh Gender Service cancelled 60 surgeries this year – minister

Ap Gwynfor said the NWJCC had appointed a clinical review panel, and it was expected …

Crymych teacher banned for two years after striking pupil on trip

A supply teacher who struck a pupil and swore while on a school trip to …

BBC Wales to cut 45 jobs as part of £500m savings plan

Several long-running radio programmes have also been dropped by the corporation from its Welsh language …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime