google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Posibilrwydd cadw uned strôc Ysbyty Bronglais wedi cynigion newydd

Advertisements

Mewn ymateb i’r dewisiadau amgen, croesawodd Lisa Francis – cadeirydd y grŵp ymgyrchu Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) – “opsiwn sy’n cadw gwasanaeth adfer wedi strôc llawn ym Mronglais”.

“Mae’n siomedig nad oedd modd i’r bwrdd iechyd weld mai dyma oedd y ffordd orau ymlaen yn y lle cyntaf,” meddai.

Mae ymgyrchwyr AGB wedi disgrifio cynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd ar gyfer newid gwasanaethau strôc yn “anymarferol ac yn beryglus” a “ddim yn addas at y diben”.

Dywedodd Ms Francis, fod gwrthwynebiad “enfawr ac angerddol” i gynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd, oherwydd nad oedden nhw’n ystyried dalgylch ehangach Ysbyty Bronglais, sy’n cynnwys cymunedau yn ne Gwynedd a gogledd Powys.

“Roedd y cynigion hyn gan Hywel Dda yn sylfaenol ddiffygiol o’r cychwyn cyntaf.

“Nid oedd digon o fanylion ac roedd yn amlwg eu bod yn anymarferol ac yn beryglus.

“Dyw elfen ‘trosglwyddo’ y cynllun erioed wedi’i hegluro’n llawn ac ry’n ni’n gwybod bod problemau enfawr ynghylch darpariaeth ambiwlansys ac amseroedd ymateb yng nghanolbarth Cymru.”


BBC News

Views: 1

See also  Your Voice, Your Vote: Tell BBC News what election issues matter to you

Check Also

'Pwysau gwaith yn mynd i ffwrdd pan dwi ar y dŵr' medd athrawes

Mae rhwyfwr ifanc o Gaerdydd, sydd wedi ennill un o rasys mwyaf cystadleuol y DU …

Going inside the secret bunker built to survive nuclear war

At the height of Cold War tensions, the UK had plans about what to do …

Strangulation survivor says crime reporting rise is good news

The Institute for Addressing Strangulation, external (IFAS) was created in October 2022 with funding from …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Jaguar xke e type engine resin quantity.