google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Pont y Borth i ailagor yn llawn ddydd Gwener

Ff8b76b0 a8bd 11ef 8ab9 9192db313061.jpg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Pont y Borth yn ailagor yn llawn fore Gwener.

Daw hyn ar ôl i’r bont gau yn ddirybudd ar ddechrau’r mis, yn dilyn cyngor brys gan arbenigwyr diogelwch.

Ers hynny, mae’r bont wedi ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr – ond roedd rhai cyfyngiadau pwysau yn parhau mewn grym.

Bydd cerbydau hyd at 7.5 o dunelli yn cael teithio ar y bont o 07:00 ddydd Gwener, ar ôl i’r peirianwyr gadarnhau ei bod hi’n ddiogel i gael gwared ar y cyfyngiadau pwysau blaenorol.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd archwiliadau o’r gwaith dros dro yn cael ei gynnal bob dydd Mercher am 10:00 gyda’r traffig yn cael ei reoli gan arwyddion bryd hynny.

Bydd gwaith i sicrhau datrysiad parhaol i’r mater yn digwydd yn yr wythnosau nesaf, tra bod disgwyl i fwy o fanylion am y cynlluniau hynny i gael eu cyhoeddi yn fuan.

Mae’r llywodraeth wedi ymddiheuro am unrhyw effaith y mae’r cau wedi ei gael ar y gymuned leol, gan ddiolch am eu hamynedd a’u cydweithrediad.


BBC News

Advertisements

See also  Super League: St Helens beat Leeds Rhinos with try after final hooter

Check Also

Ji-sung Eom: Swansea City winger the target of alleged racism at Millwall

Swansea City head coach Vitor Matos says the lengthy stoppage during their 1-0 win away …

Court told boxer 'acted on instinct' and Tata's toxic gas safety failures

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Women’s World Cup play-off final: Pressure on Norway, says Wales boss Rhian Wilkinson

The play-off final first leg will be played at the Cardiff City Stadium on Tuesday, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime