google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Pobl yn dwyn er mwyn byw’, gydag achosion ar gynnydd yn y gogledd

Advertisements

Mae cynnydd mewn costau nwyddau pob dydd yn arwain pobl gyffredin i ddwyn o siopau, yn ôl rheolwr archfarchnad ym Mhwllheli.

“Mae pobl yn dwyn er mwyn byw, dwi’n meddwl, yn hytrach nag er mwyn gwerthu ymlaen am broffit,” meddai Kel Hughes – rheolwr siop Aldi.

Dywedodd Mr Hughes bod staff yn aml yn “dal pobl gyffredin” wrth y til hunanwasanaeth sy’n talu am y mwyafrif o’u siopa, ond yn “slipio ambell i beth i fag ar wahân” er mwyn arbed symiau isel o arian.

Daw wrth i’r ffigyrau diweddaraf ar ddwyn o siopau ddangos bod nifer y troseddau ar eu huchaf ers degawd yng ngogledd Cymru – yr unig ardal heddlu yng Nghymru i weld cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe welodd gogledd Cymru bron i 5% o gynnydd mewn troseddau dwyn o siopau, o gymharu â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Gartref.

Roedd dros 5,000 o droseddau o’r fath yn y gogledd yn 2025-26.

Fe welodd Heddlu Gwent ostyngiad o bron i 5% yn nifer y troseddau o’r fath, tra bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld gostyngiad 13.2%, a 13.6% yn llai yn ardal Heddlu’r De.


BBC News

See also  Gwen Crabb: Wales and Gloucester-Hartpury lock on playing rugby with endometriosis

Check Also

Sut y datblygodd stori’r wythnos ‘heriol’ i Reform yng Nghymru

“Ar ôl siarad gyda fy nheulu… fydda i ddim yn sefyll,” meddai, er bod “mwyafrif” …

‘Ofnadwy o falch i fod y Cymro ieuengaf i nofio’r Sianel’

Yn ogystal â phrofi iddo’i hun ei fod yn gallu cwblhau’r gamp, roedd codi arian …

Twm Morys a’i berthynas gyda’i riant, Jan Morris

Yn y ddogfen deledu, Twm sy’n cyflwyno dwy raglen yn adrodd hanes Jan. Wrth sôn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime