google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Plismon yn gwadu achosi niwed corfforol i ddyn wrth ei arestio

52e074b0 2a4f 11f0 a8b0 31dbf9c39693.jpg

Roedd y ddau heddwas yn gwisgo camerâu ar eu cyrff, a wnaeth gofnodi llawer o’r digwyddiad.

Dywedodd Richard Edwards, bargyfreithiwr yr erlyniad, wrth PC Williams fod y dystiolaeth fideo yn rhoi darlun gwahanol iawn.

Wrth ei groesholi, dywedodd wrth PC Williams fod Steven Clark wedi ymateb fel y gwnaeth oherwydd ei fod mewn poen pan nad oedd rhan gyntaf y cyffion wedi’u gosod yn iawn.

“A wnaethoch chi dagu Steven Clark yn fwriadol?” gofynnodd i’r swyddog.

“Na,” atebodd PC Williams.

“Wnaethoch chi ymosod yn anghyfreithlon ar Steven Clark?”

Unwaith eto, fe atebodd: “Na.”

Yn ddiweddarach, fe wnaeth cydweithiwr Cwnstabl Richard Williams – Cwnstabl Einir Williams – ddweud wrth y llys ei bod “ofn” wrth i Steven Clark wrthsefyll tra’n cael ei arestio.

“Mi wnaeth o fy ngwthio gyda’i fraich, mi nes i ddisgyn am yn ôl, mi wnaeth o wthio gyda grym, a do’n i ddim yn ei ddisgwyl,” meddai PC Einir Williams.

“O’n i’n ceisio dweud wrtho i beidio gwrthsefyll, ond mi oedd o’n tynhau ei gorff ac yn fy nghicio.”

Mae’r achos yn parhau.


BBC News

Advertisements

See also  Downing Street Christmas tree grown on Powys farm

Check Also

Holyhead: Man arrested after person found dead at flat

A man has been arrested after the body of another man was found inside a …

Dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi

Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi yn ystod oriau mân bore Sadwrn. …

Newport County: Hayden Mullins insists pitch not behind home form

Newport are unbeaten at Rodney Parade in League Two this season, and will look to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime