google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pleidlais cyllideb yn pasio gyda Thorïaid mewn cyfarfod gweddi UDA

Advertisements

Mae Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais ar ei chyllideb ddrafft ar ôl i arweinydd y Ceidwadwyr ac aelod arall o’i blaid fynd i’r Unol Daleithiau ar gyfer cyfarfod gweddi yn Washington DC.

Mae Darren Millar a Russell George wedi mynd i’r Brecwast Gweddi Cenedlaethol lle mae disgwyl i Donald Trump roi araith, gan olygu bod y pâr wedi colli cyfle cyntaf y Senedd i drafod a phleidleisio ar gynlluniau gwariant y flwyddyn nesaf.

Mae’r cyfarfod gweddi ar 6 Chwefror yn ddyddiad pwysig yng nghalendr gwleidyddol America, a’r cyntaf ers buddugoliaeth Trump.

Mae gan Lafur union hanner y seddi yn Senedd Cymru, felly yn methu ennill pleidleisiau os ydy’r gwrthbleidiau yn uno.

Roedd 29 o blaid y cynnig bod y Senedd yn “nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26”, un wedi ymatal a 26 yn erbyn.


BBC News

See also  Pum peth ddysgon ni o lansiad maniffesto Plaid Cymru

Check Also

Arestio bachgen, 14, ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol

Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol …

Cwmbran man ‘pushed off pub stage’ before death, inquest told

A 102-year-old man with dementia who was allegedly pushed at a Cwmbran pub died nearly …

Dyn 102 oed wedi marw ar ôl cael ei ‘wthio’ mewn tafarn – cwest

Dywedodd y crwner fod yr heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth Philip Ormerod, bod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime