google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Plaid Cymru: Bydd angen i brosiectau ynni roi elw i gymunedau lleol

Advertisements

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth ddweud y byddai ei blaid yn sefydlu bwrdd ynni cenedlaethol ar gyfer Cymru fyddai’n gyfrifol am brosiectau mawr.

Mae angen i brosiectau ynni bach a chanolig – rhwng 10MW a 350MW – gael caniatâd gan lywodraeth Cymru cyn eu bod nhw’n cael eu rhoi ar waith.

Ar gyfer cynlluniau mwy na hynny mae angen caniatâd Llywodraeth y DU ac mae rhai llai na hynny’n cael eu sortio’n lleol.

Bydd Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru’n cefnogi “ynni adnewyddadwy yn ddiamwys yn union fel rydym yn credu bod yn rhaid i les cymunedau fod wrth wraidd strategaeth ynni llywodraeth Cymru”.

Mae disgwyl iddo hefyd ddweud: “Os caiff ei wneud yn iawn, gall y newid i ynni gwyrdd ddod â chyfleoedd cymdeithasol ac economaidd mawr.

“Mae’n rhaid i gymunedau Cymru elwa’n llawn o ynni adnewyddadwy Cymru, ac mae hynny’n cynnwys cyfran deg o’r elw.”

“Yn y pen draw, rydym yn credu mai cynyddu cyfran cymunedau ym mherchnogaeth ynni adnewyddadwy Cymru yw’r ffordd orau o sicrhau lefel uwch o ailfuddsoddi yn y cymunedau hynny yn yr hirdymor.”

Doedd cyhoeddiad Plaid Cymru ddim yn dweud sut y bydd y cyfrannau hyn i gymunedau’n gweithio, na pha gyrff fyddai’n elwa.


BBC News

Views: 1

See also  'Extremely difficult' funding decisions lie ahead, says new finance minister

Check Also

The Rapture: Heatwave thriller resonates in today’s world – Iwan Rheon

Rheon has also shared the screen with Michael Sheen in the upcoming British si-fi comedy …

Prince of Wales boat tragedy that killed 15 remembered 60 years on

“This happened in the morning, at about 11 in the morning, and I was just …

One Day Cup: Middlesex thrash hapless Glamorgan

The team changes suggested the home side would be favourites, but not the scale of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime