google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Plaid Cymru: Ail-greu llun 1992

Ddydd Llun wedi’r etholiad cyffredinol ac mae Aelodau Seneddol o bob plaid ar eu ffordd i Lundain, rhai am y tro cyntaf fel aelodau etholedig.

Nôl yn 1992 roedd Plaid Cymru wedi torri tir newydd – dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Blaid ennill pedair sedd yn San Steffan.

Roedd Cynog Dafis yn ymuno gydag Ieuan Wyn Jones, Elfyn Llwyd a Dafydd Wigley yn San Steffan fel Aelod Seneddol newydd dros Geredigion a Gogledd Penfro, fel yr oedd yr etholaeth yn cael ei galw ar y pryd.

Un oedd yno gyda’i gamera’r diwrnod hwnnw ym mis Mai 1992 oedd y ffotograffydd Arwyn ‘Herald’ Roberts.

Mae’r llun enwog o’r pedwar aelod yn dal eu breichiau yn uchel yn dilyn eu buddugoliaeth wedi cael ei ail-greu yn Llundain tu allan i Balas Westminster.

Ond yn wahanol iawn y tro hwn, am y tro cyntaf yn hanes y Blaid bydd tair menyw yn dal eu breichiau yn uchel.

Yn ymuno gyda Ben Lake a Liz Saville-Roberts yn San Steffan bydd yr Aelod Seneddol newydd dros Ynys Môn, Llinos Medi ac AS newydd Caerfyrddin, Ann Davies, a fydd yn croesi trothwy San Steffan am y tro cyntaf.


Source link

Advertisements

See also  Reform Senedd candidate blamed Nato for Ukraine war

Check Also

Cyn-enillydd Cân i Gymru’n pledio’n euog i dwyll bridio cŵn

Mae enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2024, Sara Pritchard Davies, wedi pledio’n euog i …

'Dymchwelodd fy myd i gyd' – Mam pan glywodd am wrthdrawiad ble bu farw dau

Roedd gyrrwr y car dan ddylanwad alcohol adeg y digwyddiad yn 2025, mae cwest wedi …

Horror road crash and family escape house fire

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime