google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pentrefwyr ‘eisiau symud o’u cartrefi’ wedi tirlithriad Storm Bert

Steffan Messenger, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Os ydych chi’n dilyn y newyddion yng Nghymru mae’n siŵr y byddwch chi wedi gweld y fideo cyn nawr.

Y lluniau sigledig wedi’u ffilmio ar hast ar ffôn – yn dangos ochr y cwm uwchben pentref Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf (RCT) yn llithro i’r afon islaw.

“Wow” – medde’r dyn y tu ôl i’r camera, gan atseinio teimladau’r genedl.

Cafodd craith boenus ar gof y Cymry ei hailagor y diwrnod hwnnw, a’r tirlithriad yn tanio proses – ymarferol a gwleidyddol – i sefydlogi hen domenni glo’r wlad.

Mae’n anodd credu cyn lleied oedd pobl yn ei ddeall bryd hynny ynglŷn â faint yn union ohonyn nhw oedd yn bodoli, ym mhle, pwy oedd yn berchen y tir a beth oedd eu cyflwr nhw?

Mae ‘na ymdrech fawr wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i lenwi’r bylchau yna o ran gwybodaeth, ac mae’r cyhoeddiad ddydd Llun yn dod a newidiadau cyfreithiol, a sefydlu corff newydd i reoli’r sefyllfa at y dyfodol.

Ond, mae cwestiynau’n parhau ynglŷn â sut fydd y gost o ddod o hyd i ateb hirdymor yn cael ei dalu, wedi i arweinydd cyngor RCT ddweud wrth y BBC ym mis Hydref y byddai angen cymaint ag £800m dros y degawdau nesa’.

Mae’r cwmnïau preifat sy’n cynnig gwneud y gwaith heb arian cyhoeddus yn bwnc trafod arall, ac i ba raddau y dylid caniatáu iddyn nhw wneud hynny drwy werthu’r glo sy’n cael eu tynnu o’r tomenni.


Source link

Views: 0

See also  Cwis: Rownd a Rownd

Check Also

Sex assault NHS worker has sentence increased

Ieuan Crump sees his jail sentence increased to 12 years after sex assaults on two …

Scott Sio: Cardiff sign former Australia prop from Exeter

Sio won 74 caps for Australia, starting in the 2015 Rugby World Cup final and …

'Gorgeous' resort named best UK seaside town on TimeOut list

Three Welsh seaside towns make it on the top 16 best seaside towns to visit …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.