google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Pennaeth y Flwyddyn’ wedi ymddeol dros doriadau parhaus i addysg

590942b0 37db 11f0 96c3 cf669419a2b0.jpg

Mewn ymateb i’w sylwadau fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn canolbwyntio yn barhaus ar wella ysgolion.

Ychwanegodd llefarydd: “Er mwyn diwallu anghenion ysgolion a dysgwyr, rydyn ni wedi darparu £262.5m ychwanegol ar gyfer y sector addysg.

“Mae hyn ar ben y cynnydd yn y cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion. Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda’r sector i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n dysgwyr.”

Dywedodd Cyngor Sir Conwy nad oedd y cyllid oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol a’u bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Er eu bod yn ceisio lleihau unrhyw effaith ar fyfyrwyr, gall cyfyngiadau ariannol arwain at leihau neu ddileu rhai gwasanaethau.

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r cyfyngiadau ariannol hyn yn unigryw i’r ysgol hon, a bod hwn yn fater eang sy’n effeithio ar nifer o ysgolion ar draws Cymru.

“Rydym yn parhau i eirioli dros fwy o gyllid a chefnogaeth gan y llywodraeth er mwyn sicrhau bod modd i ni ddarparu’r addysg orau bosibl i’n dysgwyr.

“Yn y cyfamser, rydym yn ymrwymedig i wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd gennym, ac mae ein gweithlu addysg yn parhau i weithio’n ddiwyd i ganfod ffyrdd arloesol i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc.”


BBC News

Advertisements

See also  Talbot Green police station attacker jailed for attempted murder

Check Also

Michael Sheen campaign on toxic waste sites wins Senedd backing

Senedd members from all parties have urged Welsh ministers to work with the UK government …

Manchester City: Erling Haaland ‘no different’ following guilty verdict

Manager Stale Solbakken attempted to deflect questions, tersely saying Haaland was “very good” and “scoring …

Proposed Swansea sex shop could ‘undermine’ domestic abuse centre

Goodman said she had not been aware of the work done at One Stop Shop …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime