google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Penfro: Dirprwy arweinydd yn goroesi cynnig diffyg hyder dros ffrae iaith

Be0df210 3fb9 11f0 bace e1270fc31f5e.jpg

Advertisements

Fe gefnogwyd y sylwadau gan y Cynghorydd Aled Thomas, wnaeth ddweud bod yr iaith a ddefnyddiwyd gan Paul Miller yn “dwp” ond bod hawl ganddo “godi barn gan bobl wnaeth ei ethol”.

Cefnogwyd y cynnig gan y Cynghorydd Delme Harries wnaeth ddweud wrth y cyfarfod y dylai’r cyngor fod yn “dathlu dewis” nid “cwestiynau dewisiadau”.

Dywedodd y dylai “neb gwestiynau pam bod pobl yn dewis addysg yn Gymraeg”. Roedd cyfrifoldeb ar gynghorwyr, meddai, i “ymrwymo i gefnogi addysg yn y Gymraeg”.

Yn ôl y Cynghorydd Anji Tinley, er bod y Cynghorydd Miller wedi dweud nad oedd yn wrth-Gymreig, roedd angen mwy o dystiolaeth yn y siambr bod cynghorwyr o blaid y Gymraeg.

Fe gyhuddwyd y Cynghorydd Murphy o geisio “achub mantais yn wleidyddol”, ac roedd honiad bod y weinyddiaeth wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Fe ddaeth y feirniadaeth mwyaf damniol gan gyn-arweinydd y cyngor, Jamie Adams.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol fod y Cynghorydd Miller yn rhoi’r “argraff ei fod yn gwybod yn well na phawb arall” ac o “beidio gwrando ar swyddogion.”

Apeliodd arno i “ystyried ei ddefnydd o eiriau a’r modd eu cyflwynwyd”. Fe gefnogodd y mesur o ddiffyg hyder gan ddweud ei fod yn “rhan o ddemocratiaeth”.

Cafodd y mesur o ddiffyg hyder yn y Cynghorydd Miller ei drechu gyda 28 pleidlais yn erbyn ac 16 o blaid. Roedd 11 cynghorydd wedi ymatal rhag pleidleisio.


BBC News

See also  Steve Eaves a'i Driawd teuluol

Check Also

Dyn ‘methu anadlu’ tra’n cael ei daro a’i arestio gan blismon

Dywedodd Steven Clark ei fod wedi cael anaf blaenorol yn dilyn damwain beic modur ac …

Wales lose injured Powell for entire WXV campaign

Wales have been dealt another injury blow ahead of their WXV Global Series with Kayleigh …

Craig Bellamy: Wales boss ‘committed’ to role after Burnley talks

Speaking as he named his 28-man squad for Nations League A games with Portugal, Denmark …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime