google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Peiriannydd o Ynys Môn wedi marw mewn damwain – cwest

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher, dywedodd Mr James William Benton – un o ymwchilwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fod aelod o staff cwmni DJS Hydraulics ar safle’r cwmni ym Mangor wedi derbyn galwad gan Mr Endaf Jones, lai na hanner awr yn ddiweddarach am 12:19.

Un o’i gydweithwyr, Mr Robert Holland dderbyniodd yr alwad, sy’n dweud nad yw’n cofio llawer o’r hyn gafodd ei ddweud ar yr alwad.

Clywodd y cwest fod yr alwad yma yn anodd iddo i’w deall, a bod Mr Holland yn credu ei fod wedi clywed Mr Jones yn dweud rhywbeth tebyg i “ambiwlans”.

Fe geisiodd ei ffonio yn ôl, ond dywedodd ei fod wedi methu cael ateb.

Yn ddiweddarach, fe dderbyniodd aelod arall o weithwyr y cwmni, Dafydd Hughes, oedd i ffwrdd o’r gwaith y diwrnod hwnnw, ond yn digwydd byw yn ardal y fferm, alwad ffôn yn gofyn iddo fynd draw yno.

Fe gyrhaeddodd Mr Dafydd Hughes, fferm Hafoty yn ddiweddarach gan ddarganfod Mr Jones yn farw yno wedi’i wasgu rhwng rhwng bloc falf dau ar y tractor a’r llwythwr oedd wedi’i osod ar flaen y tractor.

Dywedodd Mr Benton o’r HSE: “Fe wnaeth Mr Jones newid nifer o’r pibellau hydrolig yn llwyddiannus cyn ei farwolaeth.

Er hynny, ychwanegodd fe wnaeth Mr Jones gamgymryd fod un o’r pibellau wedi ei gwagio, pan nad oedd wedi.

“Rwy’n credu fod y lle’r oedd Mr Endaf Jones yn sefyll ar yr adeg pan wnaeth o ddatgysylltu un o’r falfiau wedi achosi, yn anffodus, iddo gyfangu arno ei hun.”

Nododd ei fod hefyd o bosib wedi camgymryd lliwiau’r falfiau.

Aeth ymlaen i ddweud fod Mr Jones yn dechnegydd oedd â llawer iawn o brofiad a nifer o gymwysterau.

Byddai’r llwythwr ar y tractor, oedd ar y pryd yn wynebu’r llawr wedi codi “yn sydyn” yn ôl Mr Benton.

Daeth y rheithgor i’r casgliad fod Mr Endaf Telford Jones wedi marw o ganlyniad ddamwain ac achos ei farwolaeth oedd asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia)..


BBC News

Advertisements

See also  Swansea City: Alan Sheehan 'a very good candidate' for head coach job - Josh Key

Check Also

Nant Gwynant software ‘genius’ on holiday in Malta fell to death from hotel balcony

A software engineer may not have known he was falling to his death from a …

Dyn o Lanuwchllyn i herio Luke Littler ar Netflix am gyfle i ennill £501,000

Bydd Cymro o Lanuwchllyn yn un o 20 o chwaraewyr dartiau sy’n cael cyfle i …

Hayden Mullins deserves more credit at Newport County – Lee Jenkins

Last year, those setbacks often led to heads dropping. Mullins felt his side could have …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime