google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Peidiwch anwybyddu profion ceg y groth, fel wnes i’

Mae dynes o Fethesda wedi annog merched i fynd am brawf ceg y croth wedi iddi hi ei hun anwybyddu gwahoddiadau am flynyddoedd.

Mae Elin Siôn, 40, newydd gael llawdriniaeth fawr i dynnu ei chroth, ceg y groth a thiwbiau ffalopaidd wedi iddi gael rhywfaint o boenau cyn y Nadolig.

Roedd arbenigwyr yn meddwl mai haint ar y dŵr oedd ganddi i ddechrau ond yna wedi profion pellach darganfuwyd bod ceg ei chroth yn llawn o gelloedd anarferol – y newid sy’n digwydd cyn i ganser ddatblygu.

Ers y profiad, a oedd yn sioc anferthol, dywed ei bod yn hollbwysig i ferched fynd am brofion ceg y groth wedi iddyn nhw gael gwahoddiad.

Mae merched rhwng 25 a 64 yn cael eu gwahodd am brofion bob pum mlynedd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol mae tua 160 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn.

Dyma’r canser mwyaf cyffredin mewn menywod o dan 35 oed.


Source link

Advertisements

See also  Lluniau: Edrych yn ôl ar yrfa Terry Yorath

Check Also

‘Amser wedi dod i ystyried cau Swyddfa Cymru yn San Steffan’ – Drakeford

Wrth gael ei holi a fyddai’n hapus i gael gwared â Swyddfa Cymru, dywedodd Mr …

Llanon ‘tropical jungle’ must relocate after neighbours complain

A man who lives in a log cabin and keeps wallabies, mongooses, porcupines, parrots and …

Ex-first minister Mark Drakeford suggests Wales Office should go

The future of the Wales Office has been the subject of regular speculation since devolution, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime