google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Parc technoleg gwerth £1bn ‘i greu 1,200 swyddi’ ym Môn

Dywedodd Ian Davies o gwmni Stena y byddai’r ganolfan ddata “ar flaen y gad” o ran technoleg, ond y byddai’n cael ei ariannu’n breifat.

Ychwanegodd fod safle Alwminiwm Môn wedi cael ei ffafrio oherwydd bod yr holl hanfodion yno gan gynnwys cysylltedd ffyrdd a rheilffyrdd, ond hefyd cyflenwad trydan ei hun a chysylltiad data sydd eisoes yn bodoli.

Gyda’r rhain eisoes yn eu lle, dywedodd y gallai hyn dorri’r costau a gwaith adeiladu o “rhyw 5-6 mlynedd” o’i gymharu â sefydlu canolfan o’r fath mewn lleoliad newydd sbon, ond byddai’n dal i olygu buddsoddiad “yn y cannoedd o filiynau”.

“Yn draddodiadol mae canolfannau fel hyn wedi eu canoli ar hyd yr M25 ond mae’r galw lawer mwy erbyn hyn a ‘da ni mewn sefyllfa eitha unigryw,” meddai Mr Davies wrth BBC Cymru.

“Ar hyn o bryd does gan Iwerddon ddim y gallu i gael mwy o ganolfannau data, mae technoleg yn beth mawr o gwmpas ardal Dulyn ac wrth gwrs rydan ni 50 milltir o Ddulyn.

“Felly ‘da ni mewn lleoliad gwych i ddarparu cyfleuster blaengar fel hwn.”


Source link

Advertisements

See also  Leigh Halfpenny: Cardiff and former Wales full-back are 'helping each other out'

Check Also

Maesteg teen whose cancer returned after remission has clinical trial hope

A teenage boy with lymphoma says he coped with the return of his cancer by …

Gavin and Stacey’s Melanie Walters voted off Strictly Coming Dancing

On Sunday night’s results episode, they were sent into the dance-off against former footballer Shaun …

Ministers have role to play in WRU regions shake-up, Reform MS Llyr Powell says

The Welsh government has a role to play in holding Welsh Rugby Union (WRU) to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime