google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 12 2026

‘Pan ti’n athro, dwyt ti byth, byth yn gorffen dy waith’

Mae Huw hefyd yn dweud ei fod yn treulio oriau yn anfon ebyst, a bod y pwysau’n ormod.

“O’n i’n gwybod os na fyswn i’n stopio bod ‘na burnout ar y ffordd. O’n i newydd droi’n 40 a nes i feddwl bod rhaid i fi adael rŵan neu fyswn i yna am byth,” meddai.

“Mae’r cyflog yn deg ond ma’ lot o athrawon isio mwy o amser, nid mwy o arian.”

Mae Huw yn dweud bod ymddygiad disgyblion wedi gwaethygu, yn enwedig ers y pandemig, ac mai dyna un o’r heriau mwyaf.

“Mae gan rai plant anghenion yn y dosbarth a rhai’n cambihafio. Mae athrawon isio gofalu amdanyn nhw a gwneud yn siŵr nad ydy plant eraill yn cael eu gadael ar ôl.”

Fel tad i fabi chwe mis oed, mae’n dweud ei fod yn cael treulio mwy o amser gyda’i deulu bellach, a bod hyblygrwydd yn helpu.

“O’n i angen work-life balance gwell. Mae gen i fabi chwe mis oed a dwi’n gweld gwahaniaeth yn barod – gallu mynd i nofio efo fo ganol dydd a mynd i’r gogledd pan dwi isio.

“Fyswn i ddim yn gallu ‘neud y petha’ ‘ma fel arall.

“Mae bod yn self-employed yn refreshing. Mae ‘na heriau newydd yn amlwg, ond alla i wneud petha’ yn fy amser fy hun a does dim gymaint o ddisgwyliadau.”


Source link

See also  Llanelli: Dim ysgol anghenion ychwanegol yn 'sathru hawl plant'

Check Also

‘Rhaid dangos bod modd ffermio er lles natur a chael busnes proffidiol’

Dywedodd pennaeth ymgysylltu â natur a datblygu yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, Carla Evans, …

Cwis Caneuon Ysgol – BBC Cymru Fyw

Mae’n dymor newydd i ddisgyblion a myfyrwyr ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ac mae mynd i’r …

Merched Ray Gravell yn cofio eu tad a fyddai’n 75 oed

Yr hyn sy’n taro Manon yn aml yw y byddai ei thad yn dad-cu erbyn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime