google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 26 2026

Oes gan Wynedd le i ddysgu gan ogledd Yr Eidal ar dwristiaeth?

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un o awduron eraill yr adroddiad, Dr Rhys ap Gwilym, fod Gwynedd yn “hynod boblogaidd gyda thua wyth miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn”, ond bod y sector yn tangyflawni’n economaidd.

Dywedodd fod De Tyrol yn debyg i Wynedd fel ardal wledig gyda phentrefi bach, lle mae twristiaeth yn gryf y tu hwnt i’r trefi mawr.

Ychwanegodd fod tebygrwydd hefyd o ran iaith, gyda Ladin yn Ne Tyrol yn chwarae rôl debyg i’r Gymraeg mewn cymunedau yng Ngwynedd, “fel iaith sy’n ffynnu yn y pentrefi lle mae twristiaeth ar ei chryfaf”.

“Maen nhw wedi defnyddio twristiaeth i gryfhau diwylliant ac iaith, gan gadw pobl leol yn y cymunedau a chreu cyfleoedd gwaith da,” meddai.

Mae’r adroddiad yn argymell system lle mae’r arian o’r ardoll yn cael ei neilltuo ar gyfer twristiaeth, a bod adrodd bob blwyddyn ar sut mae’r arian yn cael ei wario.


BBC News

Advertisements

See also  Ymchwiliad newydd i achos menyw, 22, aeth ar goll ger Caergybi

Check Also

Katherine Jenkins says paper said it would ‘trash her’ in early career

Katherine Jenkins has reflected on the “crazy” questions she was asked by the press as …

URC: Benetton 19-19 Dragons – Welsh side show spirit to draw in Treviso

Benetton: Gallagher; Mendy, Mey, Odogwu, Ratave; Umaga, Uren; Medrano, Bernasconi, Ferrari, Midena, Ruzza, Marini, Zuliani, …

Burnham yn diystyru rhoi pwerau i gynnal refferendwm annibyniaeth i Gymru

Bydd Burnham yn annerch ei gynhadledd Lafur cyntaf fel Prif Weinidog yr wythnos nesaf, ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime