google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Nifer defnyddwyr system rhybuddion llifogydd yn ‘bryderus o isel’

Advertisements

Dywedodd Dr Will Lang, prif feteorolegydd Swyddfa’r Dywydd fod Cymru’n wynebu “risg cynyddol o lifogydd” wrth i’r tywydd ddod yn fwy eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd.

“Yn bennaf oherwydd y cynhesu ry’n ni’n ei brofi, mae mwy o leithder yn yr atmosffer,” eglurodd.

“Bydd y tueddiad ry’n ni’n gweld o aeafau gwlypach yn cynyddu, a thra gallai hafau fod yn sychach fe fyddwn ni’n gweld stormydd mellt a tharanau sy’n fwy intense hefyd,” ychwanegodd.

Mae Cymru wedi gweld “dechrau gwlyb iawn i’r hydref meteorolegol” yn barod – gyda 50% yn fwy o law yn barod na’r cyfartaledd hir dymor ar gyfer Medi gyfan, eglurodd Dr Lang.

“Ry’n ni wir yn annog pobl i ddeall mwy am y system rhybuddion llifogydd ry’n ni’n ei redeg,” meddai Ceri Davies, prif weithredwr CNC.

“Mae’n wasanaeth am ddim, a drwy gofrestru fe gewch chi wybodaeth ynglŷn â phryd ry’n ni’n dechrau pryderu am lifogydd yn eich ardal chi,” esboniodd.

“Byddwn ni’n cyflwyno rhybudd llifogydd pan ry’n ni’n fwy sicr bod ‘na lifogydd yn mynd i ddigwydd, ac yna mewn achosion mwy eithafol byddwn ni’n darparu rhybudd bod yna risg sylweddol i fywyd.”


BBC News

Views: 0

See also  'Tony ac Aloma oedd y ddeuawd orau'

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Used only with old urchin versions of google analytics and not with ga.