google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

‘Ni gyd mewn bach o sioc ac ofn’

Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu ar dir ysgol.

Cafodd dau athro ac un disgybl yn ei arddegau eu cludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman fore Mercher.

Roedd y tri wedi cael anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu.

Nos Fercher dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd yr anafiadau yn ddifrifol.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio ac wedi apelio ar bobl i ddileu fideos o’r digwyddiad ar-lein.

Dywedodd Osian, un o ddisgyblion yr ysgol fod pawb yn “rhedeg rownd a sgrechen”.

“O ni gyd jyst bach yn shocked, oedd pawb i gyd dros y lle.

“O ni’n ofn iawn… o fi i gyd a ffrindiau fi yn rhedeg ffordd arall o ni jyst yn trio cadw i ffwrdd o beth oedd yn digwydd”.


Source link

See also  Senior Labour MSs face three-way selection fight

Check Also

Ex-Top Gear’s Richard Hammond to ‘find a way’ of sharing Abergavenny mansion with bats

The bat survey commissioned ahead of the proposed building work found “bat activity levels in …

Swansea City v Wrexham: Eyes on big prize as Welsh duo collide

Most observers would regard Cardiff as outsiders to feature in the promotion race next spring …

Dathlu 80 mlynedd o gefnogi Wrecsam

Elwyn Roberts o’r Wyddgrug sy’n hel atgofion o fynd i’r Cae Ras dros y degawdau. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime