google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Newid i gystadleuaeth Eisteddfod yr Urdd wedi dod yn ‘rhy hwyr’

Mewn datganiad dywedodd Urdd Gobaith Cymru bod “Eisteddfod yr Urdd wedi tyfu a datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ac oherwydd hynny, mae’r costau wedi cynyddu hefyd.

“Ers pedair mlynedd, mae’r Urdd wedi ymrwymo i roi llwyfan i bob aelod sy’n cyrraedd y Genedlaethol, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael cyfle perfformio o’r safon uchaf.

“Er mwyn gallu parhau i sicrhau Llwyfan i Bawb, a bod yr holl berfformiadau ar gael i’w gwylio’n llawn ar bob diwrnod o’r ŵyl, rydym wedi gorfod gwneud addasiadau i hydoedd rhai cystadlaethau hunan-ddewisiad.

“Rydym yn cydnabod ac yn deall bod y newid hwn i’r Rhestr Testunau o bosib yn medru achosi rhwystredigaeth, ond rydym wedi gwneud popeth posib i roi rhybudd i’n cystadleuwyr cyn eu perfformiad cyntaf, wrth i’r system gofrestru fynd yn fyw.

“Os ydy’r cystadleuydd dros amser mewn Eisteddfod Gylch / Rhanbarth yna nodir hyn ar ei feirniadaeth a cheir gwybod ar lafar gan drefnydd yr Eisteddfod honno. Bydd yn rhaid addasu’r perfformiad erbyn yr Eisteddfod nesaf.

“Erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ni chaniateir i unrhyw berfformiad fod dros yr amser a nodir ac ni fydd modd derbyn gwobr os yw hyn yn digwydd. Felly bydd cyfle i addasu rhwng yr Eisteddfod Gylch/Rhanbarth a’r Genedlaethol os oes angen.”


BBC News

Advertisements

See also  Ffordd brysur yng Nghaerdydd ar gau wedi gwrthdrawiad

Check Also

Motorcyclist dies after falling into sea in Great Orme crash

A man has died after falling into the sea following a crash involving his motorbike, …

WXV Global Series: Sean Lynn hails grit of 13-player Wales in Japan win

Wales head coach Sean Lynn has praised the grit shown by his side during their …

Gabrielle Creevy loved being Welsh assassin on Netflix’s Black Doves

Award-winning actress Gabrielle Creevy has told how she loved being able to play “a very …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime