google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Neb ar gael yn yr ysbyty i gyfathrebu â fy merch fyddar’

8db0e8a0 2071 11f0 8537 573e4dc7a7de.jpg

Mae’r elusen RNID yn dweud bod y driniaeth o bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw yng Nghymru yn “sgandal cenedlaethol”.

Yn eu hadroddiad mae RNID yn honni bod GIG Cymru yn mynd yn groes i hawliau cyfreithiol cleifion o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Yn ôl yr elusen, tydi 73% o bobl fyddar a phobl â cholled clyw yng Nghymru erioed wedi cael eu holi am eu hanghenion cyfathrebu o fewn lleoliad gofal iechyd.

Dywedodd Polly Winn, Rheolwr Materion Allanol (Cymru) RNID: “Y realiti ofnadwy yw bod llawer gormod o bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw yn cael eu methu gan GIG Cymru.

“Mae GIG Cymru yn gwahaniaethu’n systematig yn erbyn pobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw: mae’n sgandal cenedlaethol.

“Mae bywydau’n cael eu rhoi mewn perygl oherwydd rhwystrau cyfathrebu, oedi a systemau hen ffasiwn sydd angen eu hailwampio.”

Ychwanegodd ei bod hi’n “hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion hyn ar frys”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn adnewyddu’r safonau y dylai pobl â nam ar y synhwyrau eu disgwyl wrth gael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau fel RNID a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain.

“Bydd hyn yn sicrhau bod pobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw a’u gofalwyr yn gwybod ble y gallant gael mynediad at wasanaethau, gofal a chymorth yn eu cymuned leol.”


BBC News

Advertisements

See also  Swansea City v Wrexham: The Welsh 'derby' which catches the eye

Check Also

Ieuan Evans: Former Wales captain leaving role as Lions chair

Ieuan Evans will stand down as chair of the British and Irish Lions on Wednesday …

Holyhead man in court on murder charge after body found in flat

A 33-year-old man has appeared in court charged with murder after the body of a …

Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar ôl darganfod corff yng Nghaergybi

Cafodd Martin Joseph Ward, o Ffordd Kingsland ei arestio wedi i gorff dyn, 53, gael …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime