google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Nathan Gill yn y llys ar gyhuddiadau llwgrwobrwyo Rwsia

Clywodd y llys bod Mr Gill wedi cael ei stopio ym Maes Awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron i dystiolaeth gael ei ganfod ar ffôn Mr Gill oedd yn dangos ei fod mewn “perthynas broffesiynol” gyda chyd-ddiffynnydd a chyn-wleidydd o’r enw Oleg Voloshyn, a’i fod wedi “derbyn arian yn gyfnewid am iddo berfformio gweithgareddau fel Aelod o Senedd Ewrop”.

Clywodd y llys gan yr erlynydd Richard Link fod y troseddau honedig wedi eu cyflawni yn ystod cyfnod Mr Gill fel Aelod o Senedd Ewrop, cyn i’r DU adael yn Ionawr 2020.

Fe gafodd Mr Gill ei ethol i Senedd Ewrop fel aelod o UKIP yn 2014, a’i ailethol yn 2019, fel aelod o Blaid Brexit.

Dywedodd Reform UK nad yw Mr Gill yn aelod o’r blaid.

Fe wnaeth yr uwch farnwr rhanbarthol Paul Goldspring ryddhau Mr Gill ar fechnïaeth amodol, sy’n cynnwys gorfod ildio’i basbort yng ngorsaf heddlu Bangor o fewn 24 awr, a pheidio â chysylltu ag Oleg Voloshyn.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn yr Old Bailey ar 14 Mawrth.


BBC News

Advertisements

See also  Llygredd o afonydd Cymru yn 'mygu'r môr', medd ymgyrchwyr

Check Also

Freya Bell ruled out of Wales’ second WXV Japan Test

Centre Freya Bell will miss Wales’ final international of 2026 after suffering a knee injury …

Sir Tom Jones ‘truly sorry’ as he cancels concerts due to illness

Sir Tom Jones said he is “truly sorry” after rescheduling two forthcoming concerts due to …

Prinder radiolegwyr yn bryder i gleifion canser y gogledd

Mae pob aelod o grŵp cefnogi cleifion canser Pwllheli a Phen Llŷn wedi cael profiad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime