google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Murlun newydd ym Mhontypridd i gofio Morfydd Llwyn Owen

Dechreuodd Morfydd Llwyn Owen astudio’r piano pan oedd yn 16 oed a chyfansoddi gyda David Evans.

Aeth i Ysgol Ganolradd Pontypridd cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill ysgoloriaeth gerddorol Caradog a graddio mewn cerddoriaeth yn 1912. Symudodd i Lundain i astudio dan Frederick Corder yn yr Academi Frenhinol gan ennill Ysgoloriaeth Goring Thomas.

Daeth Morfydd yn adnabyddus yn y byd celfyddydol yn Llundain, ac roedd ei chylch bohemaidd o ffrindiau yno’n cynnwys y llenorion D. H. Lawrence ac Ezra Pound, ac ambell berson o dramor fel y Tywysog Felix Yusupov o Rwsia, a chwaraeodd ran flaenllaw yn llofruddiaeth Rasputin.

Priododd Morfydd y seiciatrydd Ernest Jones – bywgraffydd swyddogol a chyfaill Sigmund Freud – ar 6 Chwefror, 1917.

Ond 18 mis yn ddiweddarach fe ddatblygodd Morfydd lid y pendics acíwt, ac yn dilyn llawdriniaeth yng nghartref teulu ei gwr yn Abertawe bu hi farw.


BBC News

Advertisements

See also  Toby Booth: Ospreys head coach hopes for job offer dispensation

Check Also

Croeso arwrol i Elfyn Evans yn Nolgellau ar ôl ennill pencampwriaeth ralïo’r byd

Cafodd Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy groeso arwrol ddydd Iau wrth iddo ddychwelyd i’w ardal …

Charlotte Church’s The Dreaming retreat to pause in December

Charlotte Church will “pause” her wellness retreat from December to “germinate new dreams for the …

Cardiff’s Krystian Bielik sees psychologist over alleged death threats after fan clash

A Hampshire Police investigation into the flashpoint concluded no further action was needed, with Bielik …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime