google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

‘Modd osgoi’ marwolaethau pedwar dyn ifanc yng Ngwynedd – cwest

Mae cwest wedi clywed fod pedwar dyn ifanc o Sir Amwythig wedi boddi mewn cerbyd a oedd wedi troi drosodd tra roedden nhw ar wyliau yng ngogledd Cymru.

Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Hugo Morris, 18, a Wilf Fitchett, 17 ger pentref Garreg – rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert – ar 21 Tachwedd 2023.

Ar ôl gadael y ffordd roedd y cerbyd wedi troi ar ei do mewn ffos a oedd llawn dŵr, gan adael y pedwar yn sownd yn y car Ford Fiesta.

Daeth y crwner Kate Robertson i’r casgliad fod y pedwar wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.

Fe ddywedodd hefyd y bydd marwolaethau yn parhau i ddigwydd “pan fo gyrwyr newydd, ifanc yn cael caniatâd i gario teithwyr”.

Ychwanegodd y bydd hi’n ysgrifennu at yr Adran Trafnidiaeth a’r DVLA i godi pryderon am bobl ifanc yn cario teithwyr yn syth ar ôl pasio eu prawf gyrru.


Source link

Advertisements

See also  Mary Poppins: Hollywood actress Glynis Johns buried in Burry Port, Wales

Check Also

Mecanydd a ffugiodd MOT cyn gwrthdrawiad a laddodd tri yn cael gorchymyn cymunedol

Roedd teuluoedd y tair merch wedi rhoi gwybod eu bod ar goll ar noson 4 …

Ysgolion Meidrim a Llangyndeyrn i gau ddiwedd y flwyddyn

Cyn y cyfarfod dywedodd, Glyn Harbour, llywodraethwr yn Ysgol Meidrim ei fod yn poeni am …

Women’s World Cup play-off final: Why Norway win may not send Wales to Brazil

However, Finland’s semi-final victory against Serbia has changed the picture. As a League B runner-up, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime