google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merched Cymru yn ennill gêm am y tro cyntaf ers blwyddyn

Advertisements

Er bod yn rhaid i Gymru fod yn amyneddgar gyda diffyg meddiant o’r bêl, cafon nhw gyfleoedd o’r dechrau ar ôl i Ceri Holland fethu cyfle da o ffin y cwrt cosbi.

Sgoriodd Sophie Ingle gôl gyntaf yr ornest wedi tua 15 munud, yn dilyn croesiad gan Holland o gic rydd ac amddiffynnwr yn ceisio ei chlirio gyda’i phen.

Ond ni wnaeth y fantais bara am hir, wrth i Aurelie Csillag orffen o ongl anodd – i’w gwneud hi’n gyfartal.

Wedi tua hanner awr cafodd y bêl ei phasio i Hannah Cain, oedd wedi rhedeg y tu ôl i amddiffyn y Swistir, cyn ei chicio dros ben y gôl-geidwad i gefn y rhwyd.

Gorffeniad da, 2-1 i Gymru ar yr hanner.

Ychydig i mewn i’r ail hanner, sgoriodd Lily Woodham gyda’i chyffyrddiad cyntaf o’r gêm, wrth i Cain groesi’n isel ac Ingle yn gadael y bêl i Woodham ei gorffen.

3-1 oedd hi am rhyw 20 munud wedi hynny, ond fe wnaeth Cymru gamgymeriad wrth geisio chwarae allan o’r cefn, gyda’r bêl yn disgyn i draed Iman Beney i’w gorffen.

Roedd pwysau ar Gymru wedi hynny a hithau yn 3-2, gyda’r Swistir yn cael cyfleoedd da.

Ond, methu â sgorio a wnaeth y gwrthwynebwyr, wrth i ferched Cymru eu trechu am y tro cyntaf.


BBC News

Views: 1

See also  Eisteddfod yr Urdd 2026: 'Bydd croeso Môn yn un twymgalon'

Check Also

Ai gwahardd cyfryngau cymdeithasol yw’r ateb i ddiogelu pobl ifanc?

Ychwanegodd hefyd ei bod yn credu bod pobl yn aml yn fwy parod i ddweud …

Newport County transfer news: Harrison Biggins signs permanent deal with Exiles

Newport County have completed the signing of midfielder Harrison Biggins on a permanent deal. The …

Wales women’s rugby: Defence coach Tyrone Holmes sees progress despite defeats

Defence coach Tyrone Holmes insists there are encouraging signs beneath the surface despite Wales finishing …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
New coconut point restaurants coconut point residences. We spend most of our time selecting the world’s finest cashew nuts. Just a moment....