google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merch yn clywed am ryddhau llofrudd ei mam wrth fynd ar fis mêl

Advertisements

Mae unrhyw garcharor sy’n cael dedfryd oes yn gorfod cydymffurfio ag amodau trwydded am weddill ei oes ar ôl ei ryddhau.

Cafodd Bowen ei alw’n ôl i’r carchar am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2015 ar ôl torri ei drwydded a bu yno tan fis Medi 2016.

Cafodd ei alw yn ôl eto ym mis Mai 2020 yn dilyn digwyddiad lle cafodd bygythiadau eu gwneud, a bu yn y ddalfa am bedair blynedd a hanner arall.

Wrth benderfynu a ddylid ei ryddhau unwaith eto, dywedodd y panel bwrdd parôl eu bod wedi ystyried ffactorau risg yn ymwneud â’i agwedd at berthnasau, gan gynnwys “eisiau rheoli partner”, “cenfigen” a “methu derbyn fod perthynas wedi dod i ben”.

Clywodd y panel fod Bowen wedi cwblhau rhaglenni yn y carchar i fynd i’r afael â’i dueddiad i ymddwyn yn dreisgar.

Dywedodd y bwrdd parôl eu bod yn “fodlon nad oedd angen carcharu bellach er mwyn diogelu’r cyhoedd”.

Ond dywedodd Anita ei bod yn credu nad yw Bowen “wedi gwneud unrhyw newidiadau i fod yn berson gwell”, yn enwedig mewn perthynas â merched.

“Mae e’n gwneud fi’n grac oherwydd cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn, ddylai e fyth fod wedi cael ei ryddhau yn y lle cyntaf,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Etholiad 2026 'yw'r her fwyaf i Lafur yng Nghymru ers 1983'

Check Also

Death Valley star says ADHD diagnosis made her feel lucky to be actor

Keyworth, who was born in Aberystwyth, said ADHD (attention deficit hyperactivity disorder) was not spoken …

Ex-Everton wing Rhys Hughes relishing Champions League bow with TNS

After leaving Tranmere, Hughes joined Connah’s Quay in August 2024. “Going part-time is different but …

‘Angen defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r efengyl’ – Y Parchedig Glyn Wise

Fe wnaeth Glyn fwynhau paratoi a gwneud ei gymun cyntaf o flaen ei rieni yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Ford mustang 1995 widebody kit with wheels speedstar models.