google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merch bump oed wedi marw’n ‘ddamweiniol’ mewn tân – cwest

Clywodd y cwest bod y teulu o bump wedi mynd i’r gwely pan seiniodd y larwm tân am tua 21:40.

Roedd mam Alysia yn credu i ddechrau bod hynny oherwydd bod un o’i phlant eraill newydd fod yn defnyddio’r pobty yn y gegin.

Ond yna fe welodd ei phlentyn hynaf fwg yn dod o dan ddrws yr ystafell wely.

Roedd Alysia yn sgrechian, ond roedd Ms Salisbury wedi meddwl yn wreiddiol bod hynny mewn ymateb i sŵn uchel y larwm.

Ond pan aeth gyda’i chymar, Joshua, i agor y drws fe welson nhw bod yna dân yna, a bod y fflamau’n symud ar hyd y nenfwd ac i fyny grisiau.

Wrth iddyn nhw a’r plant eraill adael y tŷ, fe graciodd wydr ffenestr.

Fe gyrhaeddodd griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am 21:53. Daethpwyd o hyd i gorff Alysia am 01:05.


Source link

Views: 0

See also  Heddlu'n ymchwilio i honiad o dreisio mewn rali Clwb Ffermwyr Ifanc

Check Also

Commonwealth Games 2026: Gymnast Ruby Evans wins first gold for Wales

Evans created history by winning Wales’ first women’s artistic gymnastics Commonwealth Games gold. “I couldn’t …

Ruby Evans yn ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Mae’r fabolgampwraig Ruby Evans wedi ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Daeth Evans, …

Ebbw Vale football club chairman stole £22k to fund cocaine habit

In a victim impact statement, Holvey said the fraud had affected his mental health. “I …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
dirty dozen produce. Selection process for fci advisor recruitment 2024.