google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Matthew Rhys: Burton, hyder Cymreig a heriau newydd

Yn ôl at Burton a Chymreictod y daw’r sgwrs unwaith yn rhagor, ac mae Matthew’n barod iawn i ddweud sut yr oedd Burton yn ysbrydoliaeth iddo fel actor Cymraeg.

“Roedd Burton yn Gymro i’r carn. Bron â bod gormod i ryw raddau. Ym mhob cytundeb ffilm doedd e byth yn gweithio ar Fawrth y cyntaf ac oedd e o hyd yn gwisgo sanau coch.

“Ond oedd ‘na rhywbeth di-Gymraeg iawn, i fi, yn ei hyder. Achos fi’n credu ambell waith fel cenedl mae ‘na ddiffyg ynddon ni fel pobl hyderus.

“Dyna un elfen fawr o’n i’n caru ynddo fe, Burton. Oedd e’n holl-ffyddiog o’i grefft, a’i dalent a’i le ym mhob cymdeithas neu ym mhob ardal o’i fywyd – theatr, sinema, beth bynnag – oedd e’n dweud ‘mae mwy na hawl gyda fi fod fan hyn a wna i gymryd fy lle.’

“Wnaeth hwnna roi pob math o bethau i fi. Yn sicr roiodd e ffydd yn fy hunan. Fe ddangosodd y llwybr gan ddweud ‘Reit, bois, dewch achos ni’n cael bod yma.’

“Fe oedd y cyntaf o’r arloeswyr i fynd a dweud, ‘Reit, mae’r Cymry’n dod nawr’.”

Gallwch glywed sgwrs gyfan Matthew Rhys gyda Ffion Dafis ar BBC Sounds.


BBC News

Advertisements

See also  Council right over £209,000 payoff for ex-boss, MS says

Check Also

Michael Sheen campaign on toxic waste sites wins Senedd backing

Senedd members from all parties have urged Welsh ministers to work with the UK government …

Manchester City: Erling Haaland ‘no different’ following guilty verdict

Manager Stale Solbakken attempted to deflect questions, tersely saying Haaland was “very good” and “scoring …

Proposed Swansea sex shop could ‘undermine’ domestic abuse centre

Goodman said she had not been aware of the work done at One Stop Shop …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime