Mam yn ‘benderfynol’ o ddysgu Cymraeg i’w merch yn Dubai

9d49eb60 5e4f 11f0 abc2 f594647315a9.jpg

Er mai 14 mis oed yn unig yw ei merch, Ela, dywedodd ei bod eisoes yn siarad Cymraeg â hi yn ddyddiol.

“Pan oedd hi wedi cael ei geni, yn y munudau cyntaf ‘nes i siarad Cymraeg gyda hi, yn syth, so nawr amser fi ddim yn siarad Cymraeg mae’n rili od,” meddai.

Dywedodd ei bod yn aml yn dod ar draws pobl o bob cwr o’r byd yn Dubai, a’i bod wedi sylweddoli pwysigrwydd yr iaith “wrth esbonio i bobl o le ro’n i’n dod a pham mod i’n siarad Cymraeg”.

“Pan ti’n byw tu hwnt i Gymru, ti’n gwerthfawrogi e mwy a ti’n darllen mwy am ein hanes ni.”

Dywedodd ei bod yn manteisio ar gynnwys Cymraeg ar YouTube am nad oes modd iddi wylio Clic nac iPlayer yn y wlad.

“Ma’ Cyw arno gyda ni bob dydd, ma’ lot o sôn am screen time ond os ti’n defnyddio pethe fel’na mae e’n rhoi addysg.

“Ni’n cael awr o Cyw y dydd so mae hwnna wedi rili helpu,” meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Pwy sy'n cofio'r Anglesey Strangers?

Check Also

Fideos: Cowbois Rhos Botwnnog a’r Gerddorfa

Cafodd Cowbois Rhos Botwnnog eu ffurfio gan y brodyr Aled, Dafydd ac Iwan yn 2006. …

Beth yw blaenoriaethau byd amaeth cyn etholiad y Senedd?

Mae Ioan Phillips o Aber-miwl yn astudio Diploma Cenedlaethol Uwch mewn amaeth ac yn gweithio …

Mam yn ‘cael trafferth gwneud atgofion newydd’ wedi diagnosis enseffalitis

Roedd Helen yn ddynes “iach a llawn bywyd”, meddai ei merch a oedd yn gwneud …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
2026_1  noun pop exam final timetable (300l 800l). (ssb) ने बड़ी पहल की है। भारतीयों की सुरक्षित घर वापसी सुनिश्चित करने के लिए ssb ने. Noun e exams procedures (guidelines).