google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mali Hâf yn ennill cystadleuaeth Roundtable 6music

23191030 483f 11f0 bbaa 4bc03e0665b7.jpg

Roedd y panelwyr wedi’u plesio’n fawr ac yn cyfaddef nad oedden nhw’n deall gair o’r gân.

Dywedodd Kate Nash: “Dwi’n caru’r gân yma. Roedd o’n ddiddorol ac yn swnio’n unigryw a dwi’n caru pobl sy’n gneud cysylltiad gyda’u diwylliant a dwi’n meddwl fod hwn yn cŵl iawn, dwi eisiau clywed mwy o Gymraeg,” meddai.

Erbyn diwedd y rhaglen, cân Mali Hâf oedd wedi dod i’r brig ac wedi cael yr effaith fwyaf ar y panel.

Mae Mali wedi siarad yn agored eleni am bwysigrwydd canu yn y Gymraeg a beth mae’n golygu iddi.

“Fi ‘di clywed llwyth o weithiau – pobl yn dweud ‘pan chi’n canu’n Gymraeg chi jest yn neud yr usual circuits; Eisteddfodau, Tafwyl ond ble chi’n mynd wedyn?’

“Wel, mae llwyth o lefydd a gwledydd eraill eisiau clywed cerddoriaeth Gymraeg, nid jest Cymru,” meddai.

Bydd Mali yn perfformio yn Glastonbury eleni gyda’r ŵyl yn dechrau ar 25 Mehefin.


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff City warned of a Championship struggle - but is criticism fair?

Check Also

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Cyn-AS yn cyfaddef camddefnyddio cyfrifiadur er mwyn gamblo

Yn Llys y Goron Caerdydd mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi cyfaddef …

Cyn-AS yn cyfaddef camddefnyddio cyfrifiadur er mwyn gamblo

Yn Llys y Goron Caerdydd mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi cyfaddef …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime