google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lefel A: Miloedd o fyfyrwyr Cymru yn disgwyl canlyniadau

Yn 2020 a 2021 cafodd arholiadau eu canslo ac fe gafodd graddau eu pennu gan athrawon.

Pan gafodd arholiadau eu cynnal eto yn 2022, cafodd cynnwys rhai cyrsiau eu torri, ac yn 2023 cafodd gwybodaeth am yr hyn allai godi mewn papurau arholiad ei roi o flaen llaw i ysgolion.

Doedd yna ddim mesurau ychwanegol yn 2024.

Ond dywedodd Cymwysterau Cymru, pe bai perfformiad mewn unrhyw bwnc yn llawer is na chyn y pandemig, byddai ‘rhwyd ddiogelwch’ wrth osod ffiniau graddau.

“Dyma’r flwyddyn gynta’ i ni ddychwelyd i’r drefn asesu a gosod graddau arferol,” eglurodd Philip Baker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru.

Mae’n cydnabod bod y pandemig wedi amharu ar addysg plant sy’n sefyll arholiadau eleni.

Ond dywedodd ei bod yn bwysig i bobl ifanc, prifysgolion a chyflogwyr i’r system ddychwelyd i’r drefn.

“Mae wir yn bwysig bod gwerth yr un peth ar draws gwledydd Prydain i gyd fel bod gwerth Lefel A yng Nghymru’r un peth â gwerth Lefel A yng Ngogledd Iwerddon neu Loegr,” meddai.

Bydd nifer o fyfyrwyr BTec hefyd yn derbyn canlyniadau ddydd Iau.

Mae’r cymwysterau yn rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau gyrfa ac fel arfer mae yna lai o asesu trwy arholiad.


Source link

Views: 1

See also  O Gymru i Lydaw ac yn ôl: Hanes cysylltiad y 'cefndryd Celtaidd'

Check Also

Cynghori pobl i aros dan do ar ôl tân yng ngwaith dur Tata

Roedd mwg trwchus i’w weld yn codi o’r safle, ac yn ôl Kellie Evans oedd …

Ai trefn debyg i’r Alpau yw’r ateb i broblemau parcio Eryri?

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod hwythau’n cydweithio gyda phartneriaid i “ddatblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus cyfleus, …

Isaac Murray-Macgregor: Scarlets sign Welsh-qualified full-back from New Zealand

Scarlets have signed Welsh-qualified full-back Isaac Murray-Macgregor from New Zealand. The 20-year-old joins the Llanelli-based …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"panduan lengkap harga paving block langsung pabrik 2026 : hemat biaya dengan kualitas standar industri » thetaindomarga sm".