google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Joe Allen, seren Cymru ac Abertawe, yn ymddeol o bêl-droed

94a46c50 273c 11f0 8c66 ebf25fc2cfef.jpg

Advertisements

Mi fydd ymddeoliad Allen yn dod fel siom i reolwr Cymru Craig Bellamy, ar ôl llwyddo i’w berswadio i ddychwelyd i’r garfan genedlaethol.

Mi oedd Allen yn wreiddiol wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror 2023, yn dilyn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 2022.

Mi oedd y gystadleuaeth yn Qatar yn un siomedig i Gymru, wrth iddyn nhw golli eu gemau’n erbyn Lloegr ac Iran, a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Ond mi oedd ‘na amseroedd hapusach yn Euro 2016 pan lwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol. Mi oedd ‘na le yn rownd yr 16 olaf yn Euro 2020 hefyd.

Fe enillodd ei gap cyntaf yn 2009, ar ôl chwarae am y tro cyntaf i dîm cyntaf Abertawe pan yn 16 oed yn 2007.

Yn ei dymor llawn cyntaf yn y tîm fe chwaraeodd ran hollbwysig wrth i’r Elyrch ennill yr Adran Gyntaf, cyn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011.

Fe symudodd i Lerpwl am £15m yn 2012, wedyn ymunodd â Stoke City yn 2016, cyn dychwelyd i Abertawe yn 2022.


BBC News

See also  Miloedd heb ddŵr yn Sir y Fflint ar ôl i bibell dorri

Check Also

Georgia Evans’: A title, a ring and an IVF eye opener – Wales forward’s whirlwind year

Evans and Botterman have started the process of planning a family. Speaking openly on The …

Llywodraeth Cymru’n ‘asesu’ dyfodol canolfan profi trenau a rheilffyrdd

Dywedodd prif weithredwr CRhRhF, Simon Jones, fod galw o fewn y diwydiant rheilffyrdd am y …

Cardiff City: How worried should Brian Barry-Murphy’s side be about wasteful finishing?

Salech, who has hit three goals in the EFL Cup, thought he had found the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime